Braslun o'r Ymchwil
Am ddeunaw mis, hyd at Ragfyr 2002, cynhaliwyd rhaglen o waith ymchwil a noddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Awdurdod Datblygu Cymru ac eraill er mwyn sefydlu a fyddai cyhoeddi papur newydd dyddiol Cymraeg yn ymarferol. Fe wnaethpwyd y gwaith yn fewnol yng Nghanolfan Mercator Prifysgol Cymru Aberystwyth ac yn allanol gan gwmnïau Beaufort Research ac A&E Consultancy. Fe gafwyd cymorth gan bobl rhy niferus i'w rhestru yma, yng Nghymru, Lloegr ac ar gyfandir Ewrop. Dyma grynhoi rhai o brif gasgliadau'r ymchwil.
Ymchwil Dramor
Roedd gweld modelau staffio, costau a chyfrifon ariannol nifer o bapurau dyddiol lleiafrifol yn ddechreuad pwysig. Dysgwyd llawer hefyd am y modd yr aethpwyd ati i sefydlu a chynnal papurau dyddiol ar gyfer cymunedau tebyg o ran maint neu lai na'r gymuned Gymraeg; ac yn arbennig:
Bod cael cnewyllyn o danysgrifwyr yn hollbwysig - pobl sy'n ymgymryd â phrynu'r papur bob dydd, nid dim ond prynwyr achlysurol. Nid yw tanysgrifio, fodd bynnag, yn gyfystyr â dosbarthu drwy'r post.
Pan fydd dim ond un papur dyddiol yn yr iaith, mae'n bwysig iddo fod yn fan cyfarfod i bob carfan o'r gymdeithas, yn hytrach na phapur sy'n cynrychioli safbwynt gwleidyddol penodol.
Bod defnydd o'r we yn agor llawer o bosibiliadau wrth hel newyddion tramor a newyddion lleol ac wrth feithrin perthynas gyda chwsmeriaid a hysbysebwyr.
Ymchwil i'r farchnad yng Nghymru
Dyma rai casgliadau:
Bod 33% o gartrefi gyda siaradwyr Cymraeg o fewn Cymru â diddordeb mewn darllen papur newydd dyddiol yn Gymraeg. Mae hyn y codi i 36% o'r rhai sy'n darllen Cymraeg. Ceir rhyw 10% ychwanegol byddai efallai am ei ddarllen.
Bod 79.1% o'r rhai a lenwodd ein holiadur yn fodlon tanysgrifio. Bod rhai cannoedd o bobl yn fodlon ein helpu i gasglu tanysgrifiadau.
Y gellid gobeithio sicrhau 5,000 o danysgrifiadau (7,000 o werthiant) yn y flwyddyn gyntaf, gan gyrraedd targed o 10,000 o fewn dwy flynedd. Bydd hyn yn fwy na dyblu cylchrediad yr wythnosolion Cymraeg. Mae cylchrediad o 15,000 neu fwy yn bosib o fewn pum mlynedd. Gwelodd Lá, yr wythnosolyn Gwyddeleg, gynnydd sylweddol yn ei gylchrediad pan newidiodd i fod yn bapur dyddiol ym mis Ebrill 2003.
Bod cefnogaeth i'r cynllun ym mhob rhan o Gymru, ac ymhlith pobl o bob oed. Nid yw'n wir bod pobl ifanc â llai o ddiddordeb mewn darllen y papur.
Bod rhywfaint o werthiant yn bosib yn Lloegr, yn bennaf yn ardaloedd Llundain, y Canolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr.
Bydd yn rhaid i'r papur Cymraeg bontio a chynnig defnydd sy'n berthnasol i ddau grwp o ddarllenwyr - y rhai sydd yn darllen y papurau llydan Saesneg (a hefyd efallai y Western Mail/Daily Post), a'r rhai sydd ddim ond yn darllen y papurau dyddiol "Cymreig". Mae oblygiadau i hyn o ran cynnwys a chywair ieithyddol.
Mae gennym dystiolaeth reit fanwl o ddiddordebau'r grwp targed. Nid cychwyn gyda rhagdybiaethau am yr hyn oedd angen a wnaethom, ond holi pobl ar bapur, dros y we ac wyneb yn wyneb am eu diddordebau a'u blaenoriaethau.
Roedd cefnogaeth gan aelodau o bob plaid yn y Cynulliad a chan ystod eang o sefydliadau a chymdeithasau.
Meysydd eraill
Gwnaethpwyd ymchwil helaeth iawn yn fewnol ym maes hysbysebion, ac yna comisiynwyd ymgynghorydd allanol i wneud gwaith yn yr un maes er mwyn cadarnhau ein ffigurau. Mae'r canlyniadau yn cadarnhau bod ffrwd sylweddol o incwm hysbysebion ar gael o fynd ati'n broffesiynol i'w gasglu.
Gwnaethpwyd llawer o ymchwil ym maes technoleg gwybodaeth a dulliau cynhyrchu. Daethom i'r casgliad na fyddem yn ceisio bod yn wasg argraffu. Yn naturiol, bydd pob rhifyn a phob erthygl yn cael eu storio ar-lein ac yn ffurfio archif a fydd ar gael i danysgrifwyr.
Yn naturiol buom yn ymchwilio i ffynonellau grantiau a sbonsoriaeth ac yn trafod y posibiliadau gyda nifer o gyrff. Rydym wedi ennill grantiau cychwynnol dros y ddwy flynedd gyntaf gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Sir Powys, ac rydym yn dal i drafod y posibilrwydd gyda Llywodraeth y Cynulliad o gael grant blynyddol ar gyfer agweddau arbennig o'r papur. Ymhob achos rydym yn mynnu cadw rheolaeth olygyddol lawn ar gynnwys y papur.
Canlyniad yr Ymchwil
Daethom i'r casgliad bod papur dyddiol Cymraeg o fath arbennig yn ymarferol o gael lefel digonol o fuddsoddiad. Ar ddiwedd 2002 fe sefydlwyd cwmni Dyddiol Cyf i gario'r cynllun o'r maes ymchwil i'r maes masnachol, ac ym mis Mawrth 2008 fe fydd Y BYD yn gweld golau dydd.

