26 Hydref 07 | 03 Hydref/03 October 07 | Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06
28 Tachwedd 2007 (Click here for English version)
Datganiad gan Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.
“Mae paratoadau ar gyfer sefydlu Y Byd, y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg, yn agosáu at gyfnod allweddol.”
“Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad at y wasg Gymraeg, gan gynnwys papur dyddiol Cymraeg. Hefyd rwy'n croesawu adolygiad y Gweinidog Treftadaeth a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o'r wasg Gymraeg, fydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2007. Wrth i'r broses o adolygu'r wasg Gymraeg barhau, mae Dyddiol Cyf yn aros yn eiddgar i glywed pa gefnogaeth fydd ar gael maes o law i helpu ariannu papur dyddiol.”
“Fe hoffwn ddiolch i holl gefnogwyr y fenter am eu cefnogaeth a'u hamynedd, ac rwy'n hyderus y cawn ragor o newyddion positif am ddyfodol y wasg Gymraeg yn gynnar yn 2008. Mae'r amserlen a osodwyd ar gyfer y broses yn golygu ein bod yn adolygu dyddiad lansio Y Byd. Ein cynllun gwreiddiol oedd lansio'r papur ar Fawrth 3ydd, 2008. Yn y cyfamser mae'r gwaith o baratoi ar gyfer ymddangosiad Y Byd yn parhau.”
DIWEDD
Mae Ned Thomas ar gael ar gyfer cyfweliadau heddiw yn Aberystwyth. Cysyllter â 01970 625358 neu 01970 621998.

