Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06
Tachwedd 28 2006
Staff Golygyddol Y BYD yn cael eu henwi
Cyhoeddwyd heddiw pwy fydd Golygydd a Dirprwy Olygydd Y BYD.
Aled Price, newyddiadurwr â blynyddoedd o brofiad gyda HTV Cymru a BBC Cymru, fydd y Golygydd. A Catrin Rogers, newyddiadurwraig sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar papur newydd awdurdod lleol yn Llundain, fydd y Dirprwy Olygydd. Mae hi wedi hefyd wedi cyhoeddi yn yr Observer.
"Mae Dyddiol Cyf. yn hynod o falch o fod wedi cael hyd i staff mor brofiadol a thalentog i arwain ar ochr olygyddol Y BYD." meddai Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.
Ni wnaed cyhoeddiad hyd yma gan nad yw'r cytundebau gwaith ffurfiol yn gallu cael eu cwblhau nes clywed yn ysgrifenedig am grantiau sydd yn yr arfaeth. Mae'r apwyntiadau amodol hyn yn galluogi i'r gwaith o gynllunio'r papur symud ymlaen i gyfnod newydd.

