Awydd gweithio i'r Byd?
Dyma gyfle i fod yn rhan o ddatblygiad chwyldroadol yn hanes Cymru a'r Gymraeg, datblygiad sy'n hanfodol i dwf ac aeddfedrwydd cenedl. Nid efelychiad Cymraeg o'r wasg ddyddiol "Gymreig" bresennol sydd mewn golwg ond patrwm tra gwahanol. Mi fyddwn yn gofyn llawer gan y staff ond hefyd yn cynnig llawer o ran cyfleoedd, hyfforddiant, amodau gwaith a thâl cystadleuol.
Mae'r Byd yn disgwyl cyflogi o gwmpas 30 o bobl, rhyw 12 ohonynt yn newyddiadurwyr, rhai eraill ym maes casglu hysbysebion a thanysgrifiadau, dosbarthu a chyhoeddusrwydd, rheolaeth ariannol a chyffredinol, a thechnoleg gwybodaeth. Lleolir ychydig y rhan fwyaf o'r swyddi yng nghanolbarth Cymru a niferoedd llai mewn ardaloedd eraill. Bydd cyfleoedd hefyd drwy Gymru i gael gwaith ffri-lans achlysurol.
Mae'n anhebyg iawn y gallwn lenwi'r holl swyddi o fyd y wasg a'r cyfryngau. Gall profiad neu arbenigedd mewn meysydd eraill, adnabyddiaeth dda o'r gymdeithas Gymraeg mewn rhannau arbennig o Gymru, brwdfrydedd a pharodrwydd i gael hyfforddiant pellach, i gyd fod yn gymwysterau perthnasol. Bydd medru ieithoedd heblaw y Gymraeg a'r Saesneg i safon uchel yn fanteisiol ar gyfer rhai swyddi.
Byddwn yn gwahodd ceisiadau am swyddi penodol ac yn apwyntio drwy broses ffurfiol, ond yn y cyfamser mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gweithio i'r cwmni ar yr ochr fasnachol neu olygyddol gysylltu â chadeirydd Cwmni Dyddiol Cyf, Ned Thomas, a hynny'n gwbl gyfrinachol. Danfonwch y manylion llawnaf ato am eich profiad, eich sgiliau, eich diddordebau a'ch disgwyliadau. Mi fydd yn cydnabod derbyn eich neges ac o bosib yn trefnu cwrdd i gael trafodaeth pellach. Ef yn unig fydd yn gwybod am eich diddordeb i weithio i ni nes i chi benderfynu gwneud cais ffurfiol adeg hysbysebu'r swyddi. Dyma ei gyfeiriad preifat:
Ned Thomas, Hafod Wen, Ffordd Caradog, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JY
Cyfleoedd Cyfredol
Nid oes unrhyw swyddi yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.

