15 Chwefror 08/15 February 08 | 16 Ionawr 08/16 January 08 | 28 Tachwedd 07/28 November 07 | 26 Hydref 07 | 03 Hydref/03 October 07 | Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06

4 Mawrth 2008 (Click here for English version)

Datganiad Newyddion

Mae Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf., wedi anfon y llythyr isod at Geraint Evans, ITV Wales, Golygydd rhifyn 5 Chwefror o Y Byd ar Bedwar:

Annwyl Geraint,

Yn dilyn y rhifyn o Y Byd ar Bedwar (Chwefror 5) oedd yn ymwneud yn ei gyfanrwydd â'r papur newydd dyddiol arfaethedig Y Byd, mae nifer o bobl wedi tynnu ein sylw at elfen gamarweiniol iawn yn y cyflwyniad oherwydd yr hyn na ddywedwyd.

Dangoswyd Aled Eirug a hefyd Marc Jones yn mynegi amheuon am gynlluniau Y Byd. Dan enw Marc Jones nodwyd y geiriau 'Newyddiadurwr', a dan enw Aled Eirug 'Cyn-bennaeth newyddion BBC Cymru' oedd yn rhoi'r argraff mai arbenigwyr diduedd ac annibynnol oedd yn siarad.

Deallwn fod Marc Jones yn gyflogedig gan Blaid Cymru a bod Aled Eirug yn Ymgynghorydd Cyfansoddiadol i Dafydd Elis-Thomas. Byddai gwybod hyn wedi pery i'r gwylwyr ddehongli sylwadau'r naill a'r llall yn wahanol.

Cawsom ein cynghori i wneud cwyn swyddogol, ond os camliwio ac anghydbwysedd anfwriadol sydd dan sylw, byddai'n well o lawer gennym eich bod yn cael y cyfle i gynnwys cywiriad mewn man amlwg yn rhifyn nesaf Y Byd ar Bedwar fel bod unioni'r cam yn digwydd yn fuan. Gall cywiriad dim ond gwneud lles i'r rhaglen gan fod ensyniadau am eich cymhellion eisoes ar y cyfryngau amgen.

Gofynnwn i chi wneud y cywiriad ar lafar ac mewn print bras ar y sgrin am amser digonol i bawb ei ddarllen - fel bod y neges yn cyrraedd pawb sy'n gwylio.

Rydym yn awgrymu'r geiriad canlynol:

“Yn rhifyn Chwefror 5ed o Y Byd ar Bedwar, wrth gyflwyno sylwadau Marc Jones ac Aled Eirug am gynlluniau'r papur newydd Y Byd, dylem fod wedi egluro bod Marc Jones ar hyn o bryd yn gyflogedig gan Blaid Cymru a bod Aled Eirug yn Ymgynghorydd Cyfansoddiadol i Dafydd Elis-Thomas.”

Byddem yn fodlon trafod rhyw amrywiad ar y geiriad ond bod y neges yn glir. Gallwch gysylltu heddiw ar 01970 625358 neu 01970 622990, neu drwy'r swyddfa 01970 621998.

Yn gywir, Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.

DIWEDD

01970 621998 / neges@ybyd.com