Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06
20 Mehefin 2007
Y Byd i ymddangos ar 03:03:08
...tanysgrifiadau ar werth nawr!
Dydd Llun, y 3ydd o Fawrth 2008 fydd dyddiad lansio Y Byd, yn ôl Dyddiol Cyf. y cwmni sy'n sefydlu'r papur dyddiol cenedlaethol Cymraeg.
Dywedodd Golygydd y papur, Aled Price, "Fe fydd Y Byd yn chwyldroi newyddiaduraeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Am y tro cyntaf fe fydd gan Gymru bapur dyddiol Cymraeg."
Ychwanegodd, "Bydd Y Byd yn llawn newyddion - lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Fe fydd yn bapur newydd cyflawn - yn cynnwys chwaraeon, adloniant, busnes a gwleidyddiaeth. Mi fydd gwefan eang bywiog yn elfen ganolog o'r fenter wrth i Y Byd dorri tir newydd gyda gwefan newyddion fyw. Hwn fydd yr unig wefan Cymraeg fydd yn rhoi gwasanaeth newyddion cyflawn yn y Gymraeg."
Bydd gwefan Y Byd yn cynnig gwasanaethau arbennig i danysgrifwyr. Fe fydd tanysgrifwyr yn derbyn manteision eraill fel gostyngiad sylweddol ar bris y papur - a chynigion arbennig ar y cyd â phartneriaid masnachol y papur.
Yn ôl Aled Price, "Mae'r papur yn anelu at 5,000 o danysgrifwyr ac fe fydd yr ymgyrch gwerthu tanysgrifiadau yn cychwyn heddiw. Mae'r nod o gael cyfran uchel o danysgrifwyr yn seiliedig ar lwyddiant nifer o bapurau newydd eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr. Byddwn yn anelu at ddenu rhagor o ddarllenwyr, ar wahân i danysgrifwyr, nes ymlaen. Mae'r papur wedi denu cefnogaeth sylweddol yn barod - hyd yn oed cyn iddi ymddangos. Nawr mae cyfle i'n darllenwyr fod yn rhan o'r llwyddiant a thanysgrifio o flaen llaw i'r papur."
Fe fydd pencadlys y Byd yn cael ei sefydlu ym Machynlleth. Yno bydd canolfan y tîm o 24 o staff llawn amser yn cynhyrchu'r papur a'r wefan yn ddyddiol. Yn ogystal â staff ym Machynlleth fe fydd Y Byd yn cyflogi newyddiadurwyr ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf, "Mae heddiw yn garreg filltir mewn proses sy'n parhau. Rydym yn adeiladu cymuned o gwmpas y papur a'r wefan - mae gennym 340 o fuddsoddwyr preifat sydd yn sicrhau fod perchnogaeth y papur yn aros yng Nghymru; 1700 o aelodau yn ein Clwb Cefnogwyr, a nawr rydym yn lansio ymgyrch danysgrifio. Mae Y Byd wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan bobol ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys cefnogwyr di- Gymraeg.
"Rwy'n ddiolchgar hefyd am gefnogaeth grantiau busnes gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Sir Powys. Yn yr wythnosau i ddod fe fyddwn yn chwilio am ragor o gefnogaeth gan y gymuned fusnes yng Nghymru. Mae hybu'r economi Gymreig ymhlith blaenoriaethau'r papur.
"Byddwn hefyd yn parhau i siarad â'r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn eu hannog i adeiladu ar yr addewidion a wnaed ganddynt yn ystod yr etholiadau diweddar - i helpu sefydlu'r papur dyddiol ar seiliau cadarn yn unol â disgwyliadau Cyngor Ewrop."
DIWEDD
Mae Aled Price, (Golygydd), Ned Thomas (Cadeirydd) a Rebecca Williams (Rheolwr Cyffredinol) ar gael ar gyfer cyfweliadau darlledu a phrint. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yn Cambrensis ar 029 20 257075/01286 685254 neu drwy e-bost lleucu@cambrensis.uk.com
- Mae Y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol, yn lansio ar ddydd Llun, y 3ydd o Fawrth 2008.
- Y Byd yw'r papur dyddiol Cymraeg cyntaf erioed.
- Bydd Y Byd yn mynd i'r wasg 5 diwrnod yr wythnos ac yn cael ei ddosbarthu i bob rhan o Gymru.
- Mae Y Byd yn bapur annibynnol, wedi ei dargedu at ddiddordebau darllenwyr Cymraeg.
- Mae tanysgrifiadau i Y Byd - a chynnig arbennig i danysgrifwyr - ar werth o heddiw ymlaen
- Pris Y Byd fydd 70c dydd Llun i ddydd Iau, a £1.20 ar ddydd Gwener yn cynnwys atodiad penwythnos
- Bydd tanysgrifwyr yn derbyn talebau i'w cyfnewid am y papur mewn siopau papurau newydd trwy Gymru gyfan
- Bydd modd tanysgrifio i'r papur ar-lein yn unig am bris gostyngol
- Bydd tanysgrifwyr yn derbyn gostyngiad o hyd at 25% oddi ar bris y papur
- Gweler y daflen tanysgrifio amgaeedig, neu ewch i www.ybyd.com am ragor o fanylion
Nodyn ychwanegol
Bydd y cwmnïau canlynol, yn ogystal â swyddfa'r Byd, yn gwerthu tanysgrifiadau dros y misoedd nesaf:
- G.ap yn y Farchnad: Gwion ap Rhisiart, 07779123885, rhys.rhisiart@ntlworld.com (ardal Caerdydd)
- Momentwm: Nia Lynn Jones, 01352 754212, nia@momentwm.com (y gogledd-ddwyrain)
- Partneriaeth Egin: Guto Bebb/Gerwyn Owen, 01286 677027, guto.bebb@btconnect.com (y gogledd-orllewin)
- Sbectrwm: Cefin Campbell, 01558 668663, cefincampbell@homecall.co.uk (y de-orllewin)

