Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06

11 Medi 2007

Byd Busnes - Cyfle Unigryw i Fusnesau Cymru

Mae Y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol newydd, yn lansio cynllun cyffrous a chyfle unigryw i fusnesau Cymru. Mae wrthi'n sefydlu clwb arbennig i bobl busnes fydd yn eu galluogi i chwarae rhan allweddol yn y papur o'r cychwyn cyntaf. Bydd cannoedd o fusnesau Cymreig yn cael eu gwahodd i ymaelodi â Byd Busnes a manteisio ar nifer o fuddiannau unigryw.

Y Byd yw'r papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg a bydd yn lansio ar Fawrth y 3ydd, 2008.

Bydd Y Byd yn cynnwys newyddion lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol, ac mi fydd yn rhoi blaenoriaeth ddyddiol i newyddion busnes yng Nghymru.

Bydd aelodau Byd Busnes yn derbyn:

Mae mantais sylweddol o safbwynt treth ar gael o fuddsoddi yn Dyddiol Cyf., sef y cwmni sy'n sefydlu Y Byd. Bydd y rhan fwyaf o fuddsoddwyr yn gymwys am ryddhad treth dan ganllawiau'r 'Corporate Venturing Scheme' (i gwmnïau) neu'r 'Enterprise Investment Scheme' (i unigolion).

Dywedodd Guto Bebb, Rheolwr Partneriaeth Egin, sy'n cydlynu Byd Busnes,"Mae mawr angen papur newydd dyddiol Cymraeg ar Gymru sydd yn cynnwys straeon busnes safonol. Mae gan fusnesau Cymru gyfle i fod yn rhan o lwyddiant y papur dyddiol cenedlaethol.

Mae Y Byd yn bwriadu rhoi cyfle cyson i bobl busnes Cymru gwrdd er mwyn trafod, rhannu syniadau a gwybodaeth. Mae Y Byd yn bwriadu bod yng nghanol y byd busnes Cymreig ac fe fydd bodolaeth papur cenedlaethol bob dydd yn hwb i fusnesau o bob math yng Nghymru".

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: