Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06

15 Mawrth 2007

Cyngor Ewrop yn cynyddu'r pwysau dros sefydlu papur dyddiol Cymraeg

Cyhoeddwyd adroddiad gan Gyngor Ewrop yr wythnos hon ar sefyllfa'r ieithoedd lleiafrifol yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw'n benodol at ddiffyg papur dyddiol cenedlaethol yn y Gymraeg.

Mae'r adroddiad, wedi'i lunio gan bwyllgor o arbenigwyr annibynnol, yn delio gyda'r ystod eang o feysydd sy'n dod o dan rychwant 'Siarter Cyngor Ewrop ar Ieithoedd Lleiafrifol neu Ranbarthol'. O dan adran ar y cyfryngau, mae'n rhoi sylw i'r mater o bapurau newydd.

Cyfeiria'n benodol at y fenter i sefydlu Y BYD:

"The Committee of Experts has been informed that a company has been established to create a national daily newspaper in Welsh called 'Y BYD' [and] has received numerous letters and submissions from different organisations that strongly support this venture. The Committee ... welcomes the positive developments towards the establishment of a daily newspaper..."

Mae'r Pwyllgor yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i gefnogi'r fenter drwy ofyn iddynt rhoi gwybodaeth am sut mae'r fenter yn symud ymlaen ar gyfer ei adroddiad nesaf.

Gellir darllen yr adroddiad llawn (PDF) ar wefan Cyngor Ewrop.