28 Tachwedd 07/28 November 07 | 26 Hydref 07 | 03 Hydref/03 October 07 | Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06

16 Ionawr 2008 (Click here for English version)

Datganiad gan Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.

Carreg Filltir i'r Iaith ac i'r Wasg

“Caiff adroddiad Bianchi ei weld fel carreg filltir yn hanes yr iaith Gymraeg a'r wasg yng Nghymru” meddai Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf., wrth groesawu arolwg Dr Tony Bianchi o'r wasg Gymraeg a gyhoeddwyd ddydd Llun, 14 Ionawr. Mae'r ddogfen ar hyn o bryd yn cael ei hystyried gan y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.

“Mae'r arolwg yn cynnig dadansoddiad praff o gyflwr anfoddhaol a thameidiog y wasg Gymraeg a hefyd yn gwneud argymhellion sydd yn gadarnhaol iawn nid yn unig o safbwynt papur newydd dyddiol Y Byd ond hefyd cyhoeddiadau newyddiadurol eraill yn y Gymraeg,” medd Mr Thomas.

“Rydym yn disgwyl datganiad buan gan y Gweinidog Treftadaeth fydd yn egluro'r camau nesaf yn y broses o wireddu ymrwymiad y Llywodraeth Glymblaid i weld sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.

“Gall ymchwil i'r farchnad a chymariaethau rhyngwladol fyth fynd â ni bob cam o'r ffordd, fel y cydnabu adroddiad Dr Bianchi. Daw amser pan mae angen ewyllys gwleidyddol ac ymdrech gymunedol os am ail-godi y wasg Gymraeg a chyfrannu at greu democratiaeth Gymreig.”

Gwelir testun llawn Adroddiad Bianchi ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Isod rydym wedi copïo'r prif argymhellion sy'n ymwneud â'r papur dyddiol.


11.2 Papur Dyddiol Cymraeg

Ni phrofwyd ac ni ellir profi y tu hwnt i bob amheuaeth bod papur dyddiol Cymraeg yn fenter ddichonadwy ar sail ymchwil farchnad na modelau cymaradwy mewn mannau eraill. Mae prosiect Dyddiol Cyf. yn uchelgeisiol hefyd yng nghyd-destun profiad diweddar o gyhoeddi yn Gymraeg. Ar y llaw arall, mae ei gais wedi'i seilio ar egwyddorion cryf, mae tystiolaeth bod canran uchel o'r farchnad arfaethedig â diddordeb yn y fenter, mae'r arian a gasglwyd oddi wrth fuddsoddwyr preifat yn fwy na'r targed ac mae'r ffigurau sy'n dynodi gwerth am arian yn lled debyg i gyhoeddiadau o faintioli cyffelyb mewn ieithoedd lleiafrifol eraill. Fe all mai ei natur unigryw fydd ei nodwedd bwysicaf o ran ymgyrraedd at ei dargedau uchelgeisiol; ond dyna, hefyd, sy'n ei gwneud yn anodd mesur tebygolrwydd ei lwyddiant. Cytunir yn gyffredinol y byddai prosiect llwyddiannus yn dod â buddiannau i'r sector cyfan; byddai menter ddi-ffrwt, herciog yn gwneud niwed mawr iddo.

Argymhellir

DIWEDD

01970 621998 / neges@ybyd.com