03 Hydref/03 October 07 | Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06

26 Hydref 2007

Preswyliad Artist gydag Y Byd

Cyfle unigryw i artist gael ei f/mewnblannu yn swyddfa Y Byd, y papur newydd dyddiol cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, ac i weithio ochr-yn-ochr â'r tîmau golygyddol a chynhyrchu.

Cynhelir y prosiect gan gwmni Dyddiol Cyf. a'i fuddsoddwyr; A&B Cymru; a rhaglen Preswylfeydd Artistiaid Celf Cyhoeddus Cymru. Bydd y prosiect yn cynorthwyo'r fenter bwysicaf a mwyaf cyffrous yn y cyfryngau Cymraeg ers sefydlu S4C.

Rydym ni'n chwilio am artist fydd yn ymateb i weithgaredd y swyddfa papur newydd o ddydd i ddydd ac yn cryfhau ei safle o fewn diwylliant Cymru gyfan ac o fewn y gymuned leol yn ardal Machynlleth, lle bydd y prif swyddfa. Bydd medru'r Gymraeg yn hanfodol.

Bydd gan yr artist preswyl bresenoldeb ar dudalennau printiedig y papur a gyhoeddir o 3 Mawrth 2008 ymlaen, ac ar y wefan ryngweithiol.

Ystyrir unrhyw gyfrwng neu gyfryngau artistig megis testun, delweddau, ffotograffiaeth, lluniadu, cyfryngau digidol. Bydd Y Byd yn cyhoeddi llyfr fel cofnod parhaol o'r prosiect.

Cynigir ffi o £7000 am breswyliad 40 diwrnod, ynghyd â chyllideb ar gyfer defnyddiau.

This advert is for an Artist-in-Residence post with Y Byd,the first ever Welsh language daily newspaper. The ability to communicate in Welsh and English is essential.

Am ragor o fanylion a brîff yr artist, anfonwch amlen gyda'ch cyfeiriad arni'n barod, a gyda Y BYD wedi nodi arni at:

Celf Gyhoeddus Cymru
Uned 4 Sovereign Quay
Havannah Street
Caerdydd CF10 5SF

Ffôn: +44 (0)845 241 3684
ebost: info@cywaithcymru.org
info@cbat.co.uk

Y dyddiad cau yw 30 Tachwedd 2007.

Cefnogir Celf Gyhoeddus Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd.