Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06

03 Hydref 2007 (Click here for English version)

Y Byd - Cwestiwn am ymrwymiad y Llywodraeth

Mae Llywodraeth y Cynulliad, trwy gyfrwng y ddogfen ‘Cymru'n Un’ eisoes wedi gwneud ymrwymiad i gefnogi papur dyddiol Cymraeg. Yn y Senedd yr wythnos hon (Hydref 2) fe welwyd y mater yn cael ei drafod am y tro cyntaf, pan ofynodd y Ceidwadwr Paul Davies gwestiwn i'r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.

Paul Davies AC, Ceidwadwr:
“Croesawaf y cyhoeddiad heddiw ei fod ef, fel minnau, yn dymuno creu Cymru ddwyieithog, drwy roi statws iaith swyddogol i'r Gymraeg a sefydlu comisiynydd iaith. Yr wyf hefyd yn croesawu cynnydd mewn gwariant ar bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg. Fodd bynnag, mae ‘Cymru'n Un’ yn sôn am sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg ond ni chyfeirir at hynny yn y datganiad hwn. A wnaiff rwymo'r Llywodraeth i gefnogi papur newydd dyddiol Cymraeg? Fel y gwyr, yn ôl pob tebyg, mae papur newydd dyddiol Cymraeg o'r enw Y Byd ar ganol cael ei sefydlu. Os yw'n cefnogi'r papur newydd hwn, a wnaiff roi sicrwydd y bydd yn cael cymorth ariannol a rhoi awgrym i ni o ba faint y bydd hwnnw?”

Rhodri Glyn Thomas AC, Gweinidog Treftadaeth:
“Unwaith eto, croesawaf eich sylwadau am y Gymraeg. Cyfeiriasoch yn benodol at gymorth ar gyfer papur newydd dyddiol yn y Gymraeg - ydym, yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur o'r fath. Cyfeiriasoch at Y Byd, ond pe byddem yn cefnogi papur newydd dyddiol, mae'n amlwg na allem roi ein holl gefnogaeth i un papur penodol - byddai'n rhaid ei chynnig ar dendr, a byddai'n rhaid i ymgeiswyr eraill gael cyfle, os dymunent, i geisio cael mynediad at y cyllid hwnnw. Holasoch am swm penodol; gwelaf fod y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yma, ac yr wyf yn dal i negodi'r swm penodol hwnnw gydag ef a'i swyddogion. Yn y pen draw, y Cabinet a fydd yn penderfynu ynghylch yr arian a aiff at bapur newydd dyddiol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r ymrwymiad wedi'i wneud - yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur newydd dyddiol yn y Gymraeg.”

Cliciwch yma i ddarllen cofnod llawn o'r drafodaeth.


DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.
ar 01970 622990 neu neges@ybyd.com