Gwrth-ddadleuon Dyddiol Cyf.

Dyma rai dadleuon a gyflwynwyd yn yr wythnosau diwethaf i gyfiawnhau penderfyniad y Gweinidog Treftadaeth i gynnig £200,000 y flwyddyn yn unig i'r wasg Gymraeg.

  1. "Nid oedd yr ymrwymiad yn nogfen Cymru'n Un yn addo sefydlu papur dyddiol Cymraeg."
  2. "Byddwn yn cynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg."

    Dyna'r geiriau. Mae'r ymrwymiad yn ddigon clir i bawb. Mae datganiad diweddar y Gweinidog yn mynd yn groes i ysbryd yr ymrwymiad.


  3. "Mae'r ymrwymiad yn nogfen Cymru'n Un wedi'i gyflawni; mae £200,000 y flwyddyn yn ddigonol."
  4. Wrth gyhoeddi ei benderfyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd y Gweinidog:

    "...sefydlwyd papur dyddiol Gogledd Iwerddon yn y Wyddeleg, Lá Nua, gyda chymhorthdal o £400,000 dros ddwy flynedd gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon...Felly, os yw hi'n fwriad gan rywun gyhoeddi papur dyddiol yn Gymraeg, mae'n bosibl gwneud hynny. Gwnaed hyn eisoes yng Ngogledd Iwerddon..."

    Dewiswyd dyfynnu'r grant lleiaf o unrhyw bapur dyddiol lleiafrifol yng ngorllewin Ewrop gan ddangos anwybodaeth lwyr o gefndir y papur Gwyddeleg. Nid grant i sefydlu Lá oedd y grant y cyfeirir ato, ac nid grant gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond ymgais gan Foras na Gaeilge i gynnal y papur dros dro tra'n disgwyl datblygiadau gwleidyddol yn Stormont.

    Ar union ddiwrnod y datganiad uchod, daeth newyddion bod Lá Nua yn cau lawr erbyn diwedd y mis, oherwydd problemau ariannol. Nid yw £200,000 y flwyddyn yn ddigonol. Mae protest torfol yn erbyn y cau bellach wedi sicrhau estyn oes y papur o leiaf tan ddiwedd y flwyddyn.

    Sylwer bod y Gweinidog yn neilltuo £200,000 ar gyfer y wasg Gymraeg yn gyffredinol, gan gynnwys sefydlu papur dyddiol. Mae hyn yn groes i argymhelliad adroddiad Bianchi i gorlannu a gweinyddu arian papur dyddiol ar wahân (gw. 8 isod).


  5. "Gall y Llywodraeth ddim addo arian i gwmni penodol."
  6. Na all, ac nid oedd disgwyl iddi wneud hynny wedi'r cyhoeddiad y byddai proses tendro. Y disgwyliad oedd: proses cystadleuol, tryloyw am swm digonol o arian, gydag unrhyw gwmni yn cael cyflwyno cynllun a chystadlu am yr arian.


  7. "Doedd dim rhagor o arian i gael - mae setliad Llywodraeth y Cynulliad yn dynn."
  8. Roedd digon o arian i gyhoeddi drannoeth bod £1.9 miliwn ar gael i ddileu dyledion Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a bod ei grant blynyddol yn codi o £150,000 i £550,000.

    Cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth ar 7 Tachwedd ei fod wedi sicrhau arian digonol dros dair blynedd yn y Gyllideb Ddrafft iddo allu cyflawni holl addewidion Cymru'n Un oedd yn disgyn o fewn ei bortffolio:

    "Rwyf wrth fy modd y bydd y gyllideb ar gyfer Treftadaeth yn cynyddu yn ystod y tair blynedd nesaf ac rwy'n hyderus y bydd y gyllideb ddrafft yn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau yn y ddogfen Cymru'n Un."

    "I'm delighted that the budget for Heritage will increase over the next three years, and am confident that the draft budget will enable us to achieve all our One Wales commitments."



  9. "Newyddion arlein sydd ei hangen."
  10. Bu gwefan yn ganolog i gynlluniau Y Byd o'r cychwyn cyntaf, ochr yn ochr â'r papur. Nid oes papur newydd yn y Deyrnas Gyfunol sydd yn ennill mwy na 10% o'i hincwm o'r we, felly does dim model busnes yn mynd i weithio ar sail papur ar y we yn unig ar hyn o bryd.

    Nid darparu newyddion yw unig swyddogaeth papur dyddiol. Mae trafodaeth a dadansoddiad o'r newyddion yn elfennau pwysig y mae pobl yn cael hi'n haws eu darllen ar bapur.

    Beth am ddarllenwyr nad oes ganddynt fynediad i fand llydan am resymau ariannol neu ddaearyddol? Roedd adroddiad Pwyllgor Monitro Cyngor Ewrop yn tynnu sylw arbennig at anghenion y grwp hwn.

    Mae pob gwefan newyddion sy'n werth ei ddarllen yn wefan sy'n perthyn i bapur dyddiol/cylchgrawn newyddion print, neu i gorfforaeth ddarlledu. Maent yn sianelu arian o'r ochr print/darlledu mewn i'r ochr arlein. Nid oes modd gwneud i wefan dalu am ei hun, oherwydd:

    1. nad oes modd codi arian am y cynnwys, oni bai ei bod yn arbenigol tu hwnt
    2. nad oes modd codi cyfraddau uchel am hysbysebion arlein.

    O ganlyniad, yr hyn a welir gan amlaf ar wefannau newyddion heb bapur print, yw blogiau a newyddion wedi'i ail-gylchu - nid straeon gwreiddiol, ymchwiliol.


  11. "Nid oes modd cyfiawnhau grant cyhoeddus ar y fath lefel - mae'n fygythiad i annibyniaeth y wasg."
  12. Roedd yn glir o'r cychwyn bod angen grant blynyddol ar Dyddiol Cyf, i sefydlu a chynnal papur dyddiol. Trafodwyd y ffigyrau pennawd bras dros gyfnod gyda'r holl bleidiau yn y Cynulliad cyn llunio'r maniffestos, hefyd ar ôl yr etholiadau, a gyda'r Gweinidog yn benodol.

    Mae noddi papurau dyddiol mewn ieithoedd lleiafrifol yn cael ei gymeradwyo fel arfer da gan Siartr Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Cyngor Ewrop a lofnodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Yn y mwyafrif mawr o'r ieithoedd hyn ceir papur dyddiol sydd yn derbyn grant blynyddol sylweddol gan yr awdurdodau cyhoeddus. Mae'r papur Basgeg, Berria, yn derbyn £1 miliwn (€1.5) yn flynyddol gan Lywodraeth Awtonomaidd Gwlad y Basg. Nid hwn yw'r grant uchaf o bell ffordd i bapur lleiafrifol, ond dyma'r iaith sydd yn cymharu orau gyda'r Gymraeg.

    Byddai gwasanaeth newyddion arlein yn unig yn ddibynnol am ganran uwch o'i hincwm ar grant na phapur newydd, am nad oes modd denu incwm (gweler 5 uchod).

    Mae'r BBC ac S4C yn gwbl ddibynnol ar benderfyniadau gwleidyddol am eu bodolaeth (£90 miliwn i S4C yn 2006). Nid oes unrhyw gwyn ynglyn â'r lefel hyn o ddibyniaeth ar arian cyhoeddus, ac nid oes unrhyw un yn amau annibyniaeth olygyddol y cynnyrch.

    Mae trefniadau hyd braich eisoes yn bodoli ar gyfer dosbarthu grantiau i bapurau a chyfnodolion Cymraeg.


  13. "Cynllun Busnes Dyddiol Cyf. - rhy uchelgeisiol?"
  14. Ymrwymiad y Llywodraeth i oedd i sefydlu papur dyddiol - nid i gefnogi Dyddiol Cyf yn benodol.

    Ni welodd Llywodraeth y Cynulliad cynllun busnes Dyddiol Cyf; nid oedd yn briodol iddynt ei weld cyn y broses tendro, ac yn sicr nid oedd yn briodol iddynt wneud sylwadau amdano (Rhodri Glyn Thomas, yn Golwg 28 Chwefror 2008: "ni phrofwyd bod y cynllun yn fenter ddichonadwy.").

    Ond roedd y ffigurau pennawd wedi'u trafod mewn cyfarfodydd gyda gwleidyddion, cyn ac ar ôl cyfnod y maniffestos, ac yr oedd angen rhai ffigurau eraill ar Dr Tony Bianchi ('Arolwg o'r Wasg Brintiedig Cyfrwng Cymraeg') er mwyn iddo allu gwneud cymariaethau Ewropeaidd o gost uned ac yn y blaen. Nid cloriannu'r Cynllun Busnes oedd ei dasg ac nid oedd yn gweld ei hun yn gymwys i wneud hynny. Ni welodd y cynllun yn ei gyfanrwydd.

    Nid oes unrhyw gwmni arall sydd â diddordeb mewn sefydlu darpariaeth newyddion dyddiol wedi gorfod datgelu manylion o gwbl, na chael scriwtini gyhoeddus ar sail detholiad o fanylion yn unig. Mae hyn yn wendid sylfaenol yn y broses a sefydlwyd.


  15. "Penderfyniad ar sail argymhellion adroddiad Dr Tony Bianchi"
  16. Nid oes yr un argymhelliad yn adroddiad Dr Tony Bianchi sy'n cynghori na ddylid ariannu papur dyddiol Cymraeg. I'r gwrthwyneb, dyma'r argymhellion sydd ar ben ei restr:

    Argymhellir:

    • bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i sicrhau grant digonol ar y cychwyn [i bapur dyddiol Cymraeg], er mwyn galluogi'r cyhoeddwr i ddenu'r incwm uchaf posibl o ffynonellau eraill, ac yn arbennig o danysgrifiadau a hysbysebion

    • bod y swm ar gyfer ariannu papur dyddiol Cymraeg yn cael ei bennu, ei gorlannu a'i weinyddu ar wahân i unrhyw wariant arall yn y sector


  17. "Gall y Llywodraeth ddim gwarantu hysbysebion"
  18. Rhagdybiaeth Dyddiol Cyf yw bod angen o gwmpas £1m yn flynyddol o ffynonellau cyhoeddus i gynnal papur dyddiol Cymraeg. Mater i'r Llywodraeth yw ei pholisi hysbysebu ond rydym wedi awgrymu y gallai grant y Llywodraeth i bapur dyddiol fod tipyn yn llai petai polisi hysbysebu'r Llywodraeth ei hun yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

    Onid teg fyddai disgwyl bod pob hysbyseb sy'n addas ar gyfer y wasg ddyddiol Saesneg hefyd ymddangos yn y wasg ddyddiol Cymraeg? Onid hyn fyddai'n cynnig yr un cyfleon yn Gymraeg ac yn Saesneg, sef un o egwyddorion sylfaenol dogfen Iaith Pawb?

    Gallai Llywodraeth y Cynulliad arbed arian iddi ei hun drwy rannu ochr Gymraeg a Saesneg rhwng papurau dyddiol, gan mai llai byddai graddfeydd hysbysebu'r papur dyddiol Cymraeg. Ond mater i'r Llywodraeth yw hyn.


  19. "Targedau cylchrediad uchelgeisiol; Dim ond 700 o danysgrifwyr; Diffyg cefnogaeth"
  20. Bwriad creu papur dyddiol yw estyn cynulleidfa'r wasg Gymraeg a hefyd ffiniau'r iaith. Mae dehongliad ceidwadol o'r ymchwil i'r farchnad a wnaed gan Beaufort ar ran Dyddiol Cyf., yn awgrymu bod cylchrediad o 15,000 yn bosibl yn y pendraw. Mwy ceidwadol fyth yw'r rhagdybiaeth o gylchrediad o 7 mil erbyn Blwyddyn 2. Dengys datblygiad papurau lleiafrifol eraill bod angen amser i bobl gynefino â darllen papurau newydd dyddiol yn yr iaith leiafrifol pan na fu hynny'n arferol.

    Mae tystiolaeth o wledydd eraill, a ddyfynir yn adroddiad Tony Bianchi, yn dangos mai'r tueddiad yw i gylchrediad papurau dyddiol fod yn uwch na phapurau wythnosol:

    Iaith Papur Dyddiol Cylchgrawn/Papur Wythnosol
    Catalaneg Avui 41,441 El Temps 25,000
    Basgeg Berria 22,000 Argia 10,500
    Almaeneg
    (Yr Eidal)
    Dolomiten 50,049 (gwerthiant) Tageszeitung 15,000 (cylchrediad print)

    ZETT - Die Zeitung am Sonntag 25,000

    SWZ - Südtiroler Wirtschaftszeitung 5,000
    Gwyddeleg Lá Nua; 4,401 Foinse 6,683
    Sorbeg (Yr Almaen) Serbske Nowiny: 1700-2100 Katolski Pozol: 2600 (Papur Catholig)

    Nifer y Tanysgrifwyr: Sut y gellir mynegi barn am un elfen mewn cynllun heb weld y cynllun cyfan? Mae swm sylweddol iawn wedi ei glustnodi ar gyfer marchnata ym mlwyddyn 1 o gynllun busnes Y Byd, sef y misoedd yn arwain at, ac yn dilyn y lansio. Mae hyn yn caniatáu ymgyrch grymus gan gynnwys hysbysebu teledu. Rhaid gweld y 700+ a gafwyd yn nhri mis cyntaf yr ymgyrch yn y cyd-destun hwn. A chofier mai gwerthu tanysgrifiad blwyddyn yr oeddem i bobl na welodd y cynnyrch erioed. Dechreuad yn unig oedd y 700, ac nid penllanw.

    O ran lefelau cefnogaeth cyffredinol, mae buddsoddwyr wedi cyfrannu £350,000 ac mae 1,700 wedi ymaelodi â'r Clwb Cefnogwyr.

    Mae elfen o risg yn perthyn i bob menter fel y dengys hanes Canolfan y Mileniwm a'r Ardd Botaneg. Argymhelliad Adroddiad Bianchi yn achos papur dyddiol Cymraeg oedd lleihau'r risg i lefel dderbyniol drwy sicrhau grant digonol, yn enwedig ar y cychwyn.