Cwmni Dyddiol Cyf

Sefydlwyd Dyddiol Cyf ar ddiwedd y flwyddyn 2002 i gario'r cynllun papur dyddiol Cymraeg o'r maes ymchwil i'r maes masnachol.

Mae buddsoddiad gan ddigon o gyfranddalwyr unigol ymroddedig yn holl-bwysig os ydym am gadw rheolaeth ar y cwmni yn y dyfodol. Gyda'r un pwrpas fe drefnwyd wrth lunio'r cyfansoddiad bod categori arbennig o "gyfranddalwyr cychwynnol". Eu swyddogaeth fydd gwarchod yr egwyddorion sylfaenol tu ôl i'r papur; ni fydd modd, er enghraifft, newid iaith y papur heb eu cytundeb. Dyma restr y rhai fu'n bennaf gysylltiedig â'r fenter hyd yma, naill ai fel cyfarwyddwyr, fel cyfranddalwyr cychwynnol neu fel ymgynghorwyr.

Ned Thomas (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) - Cyfarwyddwr Academaidd Canolfan Mercator. Gynt yn newyddiadurwr gyda phapurau'r Times yn Llundain ac hefyd yn gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd. Sefydlydd Planet. Ef yw Cadeirydd y Bwrdd Rheoli.

Robat Gruffudd (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) - Brodor o Abertawe. Ef sefydlodd Gwasg y Lolfa (Argraffwyr a Chyhoeddwyr) yn Nhalybont, Ceredigion. Mae hefyd yn awdur.

Elin Haf Gruffydd Jones (Cyfarwyddwraig a Chyfranddalydd Cychwynnol) - Magwyd yn Nhreffynnon. Rheolwraig Prosiectau yng Nghanolfan Mercator ac hefyd darlithydd yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Robin Llywelyn (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) - Rheolwr Cyffredinol Portmeirion a nofelydd. Mae hefyd yn gyfarwyddwr nifer o gwmniau.

Gwyn Roberts (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) Bu'n gweithio i Virgin Management Ltd a Virgin Mobile yn Llundain a thrwy'r byd, ac mae'n byw yng Nghaerdydd. Creu cynlluniau busnes a datblygu mentrau newydd yw ei waith dyddiol.

Sioned Puw Rowlands (Cyfarwyddwraig a Chyfranddalydd Cychwynnol) - Magwyd yng Ngheredigion. Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru Dramor yng Nghanolfan Mercator.

Y chwech uchod yw aelodau Bwrdd y Cwmni. Yna, yn nhrefn y wyddor:

Elis Evans (Ymgynghorydd) - Brodor o Ogledd Sir Benfro. Mae ganddo oes o brofiad ym maes rheoli a hysbysebu yn sgil ei waith dros y blynyddoedd gyda phapurau Thomson a Newscom. Bu'n ddirprwy reolwr y Scotsman a'r Western Mail ac hefyd yn reolwr Cyffredinol Celtic Press. Ef sefydlodd y Cardiff Independent.

Angharad Griffiths (Cyfranddalydd Cychwynnol) - Magwyd yn y Rhondda ac mae bellach yn gweithio ym Mhontypridd. Fel Angharad Philpott bu gynt yn Swyddog Prosiect gyda'r Cynllun Papur Newydd yng Nghanolfan Mercator.

Mererid Hopwood (Cyfranddalydd Cychwynnol) - Yn enedigol o Gaerdydd, ond bellach yn byw yng Nghaerfyrddin. Bu'n ddarlithydd mewn ieithoedd modern ym Mhrifysgol Llundain ac ym Mhrifysgol Cymru Abertawe. Bu gynt yn gyfrifol am swyddfa Cyngor y Celfeddydau yng Ngorllewin Cymru. Mae'n fardd cadeiriol a choronog.

Tom McGowran (Ymgynghorydd) - Brodor o'r Alban a chyn Brif Weithredwr grwp papurau newydd Tindle. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn rheoli papurau newydd. Mae'n ymgynghorydd i Ddyddiol Cyf. ar agweddau technegol y fenter.