16 Ionawr 08/16 January 08 | 28 Tachwedd 07/28 November 07 | 26 Hydref 07 | 03 Hydref/03 October 07 | Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06
15 Chwefror 2008 (Click here for English version)
Datganiad gan Ned Thomas,
Cadeirydd, Dyddiol Cyf.
Yn sgil datganiad diweddar Llywodraeth y Cynulliad ynglyn â chyllid i'r wasg Gymraeg, ni fydd modd i Dyddiol Cyf. sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Er na roddwyd cyfle hyd yma i Dyddiol Cyf. gyflwyno ei gynllun busnes i Lywodraeth y Cynulliad, roedd yn gwbl glir i'r Llywodraeth y byddai cefnogaeth cyn lleied â £200,000 y flwyddyn yn annigonol ar gyfer sefydlu Y Byd - dywedwyd hynny gan Dyddiol Cyf. a gan Dr Tony Bianchi yn ei adroddiad ef.
Rydym o'r farn bendant, felly, nad yw penderfyniad Y Gweinidog Treftadaeth yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad yn nogfen Cymru'n Un:
Mae Bwrdd Dyddiol Cyf. yn ystyried nifer o gynlluniau positif a allai wneud cyfraniad pwysig i hybu'r wasg Gymraeg.
Maes o law, byddwn yn gofyn i gyfranddalwyr y cwmni ystyried y cynlluniau hynny.
Yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog, mae Golygydd Y Byd, Aled Price, wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad. Fe hoffwn ddiolch yn fawr iawn iddo am ei waith a'i ymroddiad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
DIWEDD
01970 621998 / neges@ybyd.com

