Medi/September 07 | Mehefin/June 07 | Mawrth/March 07 | Ionawr/January 07 | Tachwedd/November 06 | Hydref/October 06 | Mehefin/June 06 | Chwefror/February 06
02 Chwefror 2006
(Click here for English version)
£300,000 - Y BYD yn cyrraedd carreg filltir!
Mae'r fenter i sefydlu Y BYD wedi cyrraedd ei nod o godi £300,000 mewn buddsoddiadau gan unigolion. Meddai Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf. “Mae cyrraedd y nod hwn yn brawf clir bod hyder a ffydd, gobaith a brwdfrydedd y tu ôl i'r fenter i sefydlu'r papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg. Mae'n rhoi sail gadarn i'n trafodaethau gyda'n darpar-arianwyr eraill ac yn sicrhau y bydd rheolaeth ar y papur yn aros yn nwylo Cymry. Mae'n gam aruthrol o bwysig tuag at sefydlu Y BYD.”
“Carreg filltir yw hon, nid diwedd y daith.” meddai Rebecca Williams, Swyddog Datblygu Y BYD. “Rydym yn dal i groesawu buddsoddiadau am fod pob buddsoddiad ychwanegol gan unigolion yn cryfhau'r rheolaeth, ac yn agor y drws at godi rhagor o arian o ffynonellau eraill.”
Ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, mae dros 320 o bobl wedi buddsoddi symiau o rhwng £500 a £5,000 yn y fenter. Mae'r £300,000 mewn buddsoddiadau gan unigolion yn arwyddocaol am mai dyma'r lleiafswm sy'n sicrhau bod rheolaeth dros y cwmni yn aros yn nwylo pobl sy'n ymroddedig i egwyddorion sylfaenol a gwir fuddiannau'r papur. Ymysg papurau newydd Cymru, nodwedd unigryw i'r BYD yw'r elfen hon o berchenogaeth gymunedol, a nodwedd hollbwysig yng nghyd-destun cwestiynau sydd wedi'u codi'n ddiweddar am berchenogaeth ac amrywiaeth y wasg yng Nghymru.
Mae Dyddiol Cyf. eisoes yn brysur yn gweithio ar y camau nesaf yn y broses, sef codi gweddill yr arian cychwynnol - yn grantiau, nawdd a buddsoddiadau masnachol a chorfforaethol. Mi fydd cael cefnogaeth ariannol gyhoeddus yn elfen anhepgor o'r broses - mae bron pob papur dyddiol mewn iaith leiafrifol yn Ewrop yn derbyn cymhorthdal cyhoeddus ar ryw raddfa.
DIWEDD
Nodiadau
- Iwan Rhys o Borthyrhyd, Caerfyrddin prynodd y cyfranddaliad tyngedfennol. Mae Iwan ar gael i'w gyfweld - cysyllter â swyddfa Y BYD i drefnu
- Mae'r rhestr o fuddsoddwyr i'w gweld yma
Am ragor o fanylion, cysylltwch â Rebecca Williams ar:
01970 621998 / 07905 930508 / neges@ybyd.com

