Buddsoddi
Yn achos fenter fel hon, mae'n holl-bwysig ein bod ni'n cadw digon o berchnogaeth (ac felly rheolaeth ar y cwmni) yng Nghymru ac yn nwylo cyfranddalwyr sydd ag ymroddiad i iaith a phwrpas y papur. O lwyddo, Y BYD fydd yr unig papur newydd dyddiol yng Nghymru sy'n perthyn i'r Cymry yn hytrach nag i grwp papurau newydd mawr y tu allan i Gymru.
Er mwyn sicrhau hyn, rydym am aros yn gwmni preifat a chynnig gwahoddiad personol i'r rhai sydd eisoes yn aelodau o'r Clwb Cefnogwyr i fuddsoddi yn hytrach na chynnig cyfranddaliadau i'r cyhoedd yn gyffredinol. Rydym wrthi'n codi arian o ffynonellau masnachol a chorfforaethol yn ogystal.
Cofrestrwch i gael manylion.
Anfonwch neges i ofyn am fanylion buddsoddi: neges@ybyd.com
Dewch i weld pwy sydd wedi buddsoddi yn y fenter hyd yn hyn... (PDF)
Er mwyn llwyddo, mae angen i ni werthu £300,000 o gyfranddaliadau i unigolion. Rydym eisoes wedi cyrraedd y nod hwnnw ac felly ar dir cadarn iawn wrth fynd at ddarpar-arianwyr eraill. Mae pob cyfranddaliad ychwanegol a werthir yn cryfhau'r elfen o reolaeth ac yn ein galluogi ni i godi rhagor o arian o ffynonellau eraill.
Mae Cwmni Dyddiol Cyf wedi ei dderbyn ar gyfer cynllun EIS - yr Enterprise Investment Scheme. Mae hyn yn golygu y bydd y mwyafrif mawr o fuddsoddwyr yn y cwmni yn gallu hawlio lwfans o 20% yn erbyn treth incwm ar eu buddsoddiad. Danfonir manylion llawn at yr holl fuddsoddwyr adeg dosbarthu'r cyfranddaliadau.

