Ar 29 Mai 2008, dyfarnwyd y £200,000 flynyddol a glustnodwyd gan y Gweinidog Rhodri Glyn Thomas ar gyfer datblygu’r wasg Gymraeg i Golwg Cyf. Rydym yn dymuno’n dda i Dylan Iorwerth a’r cwmni.
Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod - cynllun cyffrous gydag argraffiad wythnosol o 25,000 a gwefan gyda newyddion […]

Saesneg yw iaith yr amserau,
a Saesneg yw iaith y dail,
Saesneg yw mêl y gorllewin gwyllt
a Saesneg yw iaith yr haul.
Saesneg yw’r annibynnol,
a’r ceidwad sy’n ein cadw ni gyd,
cans fe gollon ni’r cyfle i newid y drefn,
a rhoi Cymraeg yn iaith i’r byd.
A thro bo cynifer yn gweiddi,
a’u cegau nhw led y pen,
ni all fod […]

Adolygiad o’r Wasg

Categorïau: Y Byd | 7 sylw

Fe gyhoeddwyd arolwg Dr Tony Bianchi o’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg y bore yma.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ac argymhellion diddorol iawn.
Mae’r adroddiad cyflawn wedi ymddangos ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwys.php?pID=109&nID=2845&langID=1

Mae Cadeirydd Dyddiol Cyf newydd gyhoeddi newyddion pwysig - mae dyddiad lansio Y Byd yn cael ei adolygu.
Hyd nes y daw’r broses o adolygu’r wasg Gymraeg - a’r broses wleidyddol sy’n dilyn - i ben, mae’n amhosib i Y Byd fwrw ymlaen â’r amserlen o fynd i’r wasg ym Mis Mawrth.
Fe allai’r broses […]

Dyma gwestiwn ag ateb o’r Senedd fydd o ddiddordeb i gefnogwyr Y Byd…….trafodaeth ddaeth yn sgil datganiad gan Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth.
Dyma’r uchafbwyntiau perthnasol.
Paul Davies AC, Ceidwadwr :
“Croesawaf y cyhoeddiad heddiw ei fod ef, fel minnau, yn dymuno creu Cymru ddwyieithog, drwy roi statws iaith swyddogol i’r Gymraeg a sefydlu comisiynydd iaith. Yr […]

Ymhlith pethau eraill, mae dogfen y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn addo rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol i bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg.
Mae’r ddogfen yn cynnwys addewid penodol i gefnogi papur dyddiol Cymraeg. Roedd cefnogi papur dyddiol Cymraeg eisoes yn nogfen clymblaid yr enfys, felly mae consensws gwleidyddol ymarferol wedi tyfu gyda’r […]

Cefnogaeth

Categorïau: Y Byd | 3 sylw

Mae dyfodiad y papur dyddiol cenedlaethol – ar Fawrth y 3ydd 2008 -wedi ennyn diddordeb mawr. Yn ystod y 24 awr diwethaf bu pob un o’r gorsafoedd radio a theledu Cymreig yn trafod y Byd. . Mae’r brwdfrydedd tuag at y papur yn rhyfeddol- ac mae’r broses o werthu tanysgrifiadau wedi dechrau yn dda.
Yn […]

Mawrth 03, 2008

Categorïau: Y Byd | 1 sylw

Dyma ddyddiad lansio y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol.
03:03:08
Mae gennym gynhadledd newyddion yng Nghaerdydd (Dydd Mercher) i gadarnhau’r newyddion.
Mae cyfres o gyfweliadau i’w gwneud.
Radio Wales, Radio Cymru, Wedi 7, Newyddion S4C, Golwg, ITV Wales, Real Radio, Radio Ceredigion.
Dim cymaint o ddiddodeb - hyd yma beth bynnag - gan y papurau newydd!!
Pam Mis Mawrth?
Mae’n […]

Lansio y Byd

Categorïau: Y Byd | 5 sylw

Stop press… mae y Byd yn cyhoeddi diwrnod lansio’r papur o fewn y dyddiau nesaf. Mae’n fwriad gennym wneud datganiad cyhoeddus ar Fehefin 20fed. Bydd datganiad yn ymddangos yma ac ar y wefan ar fore’r 20fed.
Bydd aelodau’r clwb cefnogwyr yn derbyn llythyr hefyd i gadarnhau’r newyddion da.

Y Papur a’r We

Categorïau: Y Byd | 5 sylw

Bydd Y Byd yn bapur newydd dau gyfrwng. Papur a’r we.
Bydd tanysgrifwyr yn derbyn y papur trwy gyfrwng eu siop leol, ac yn cael mynediad hefyd i ran arbennig o’r wefan lle bydd y papur cyfan yn ymddangos, yn ogystal ag archif o’r papur.
(bydd pawb arall yn medru darllen y wefan – ond […]

parhau i edrych »