Saesneg yw iaith yr amserau,
a Saesneg yw iaith y dail,
Saesneg yw mêl y gorllewin gwyllt
a Saesneg yw iaith yr haul.

Saesneg yw’r annibynnol,
a’r ceidwad sy’n ein cadw ni gyd,
cans fe gollon ni’r cyfle i newid y drefn,
a rhoi Cymraeg yn iaith i’r byd.

A thro bo cynifer yn gweiddi,
a’u cegau nhw led y pen,
ni all fod eu calon am siarad Cymraeg -
os yw’r byd mynd i ddod i ben.

Ac wrth dy fod heno yn cwyno
am golli yr heniaith o hyd,
hola dy hunan, beth, tybed, wnest ti
i achub Cymraeg drwy ein byd?
mh

Sylwadau

2 ymateb i “Cerdd i Y Byd gan Mererid Hopwood”

  1. Hazel M White ar Mai 10, 2008 1:09 pm

    Priodol iawn! Trawodd hi’r hoelen ar ei phen.

  2. Martin ar Mai 23, 2008 3:43 pm

    Hyfryd a thrist. Amerau=times. Haul=sun a.y.y.b. Difyr iawn.

Gwneud sylw