Adolygiad o’r Wasg

Categorïau: Y Byd | 

Fe gyhoeddwyd arolwg Dr Tony Bianchi o’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg y bore yma.

Mae’n cynnwys gwybodaeth ac argymhellion diddorol iawn.

Mae’r adroddiad cyflawn wedi ymddangos ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg

http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwys.php?pID=109&nID=2845&langID=1

Sylwadau

7 ymateb i “Adolygiad o’r Wasg”

  1. Marc Evans ar Ionawr 14, 2008 11:15 pm

    Siomedig iawn nad oes neb wedi rhoi sylw ar yr adolygiad o’r wasg Gymraeg. Onid yw hyn yn dangos apathi gan y “buddsoddwyr” a chan y cyhoedd yn gyffredinol, ac felly yn cadarnhau casgliad Tony Bianchi na fydd hi yn hawdd i gwerthiant y papur cyrraedd y targed?

  2. Martin Llewelyn Williams ar Ionawr 15, 2008 11:52 pm

    “…dosbarth cefnog, cysurus sy’n dibynnu ar y Gymraeg am ei fara beunyddiol ac na fyddai’n ddim o gwbl heb y Gymraeg: athrawon, darlithwyr, gweinyddwyr o dan y drefn newydd a phobl y cyfryngau. Mae llesgedd, sinigiaeth, hunanoldeb a chrintachrwydd llawer o’r bobl hyn yn wyneb menter Y Byd yn arwydd unwaith eto o’r ‘rhywbeth mawr iawn o’i le’…”
    Wel, wel…a oes angen dweud mwy?

  3. Martin Davies ar Ionawr 18, 2008 7:05 pm

    Cytuno cant y cant a sylwadau’r Martin arall.
    Ychydig dros saith cant sy’ wedi tanysgrifio.
    Ymholiad i bawb sy’n medru darllen hyn (h.y. darllenwyr Cymraeg);

    “Os nad ydych wedi tanysgrifio i’r Byd, pam?”

    Dw i ddim eisiau eich ateb, ond meddyliwch am eich ateb fel pe bai eich plentyn yn gofyn (Dad/Mam, pam nad oeddech chi eisiau papur dyddiol Cymraeg?). Pa fath o esgus fydd gennych, tybed…

  4. Pam Lai ar Ionawr 22, 2008 5:14 am

    Dyma un o argymhellion yr adolygiad: ‘bod unrhyw arian a gynigir i bapur dyddiol Cymraeg yn cael ei weinyddu a’i fonitro gan Gyngor Llyfrau Cymru…’
    Onid yw hwn y quango a laddodd y cylchgrawn ‘Cynefin’? Gyda ffrindiau fel hyn pwy sydd eisiau gelynion?

  5. Martin Llewelyn ar Ionawr 22, 2008 9:20 pm

    Un o sylwadau Dalen Newydd Cyf. (hoffi’r enw!) yn yr adroddiad (h.y. tra’n son am Golwg):
    “Ansicrwydd ieithyddol. Ni allwn byth fod yn gwbl hyderus o allu cyrraedd diwedd brawddeg heb lithro ar ryw groen banana gramadegol.”
    Yn ychwanegol at hyn- mae ambell i lythyr o fy eiddo i wedi ymddangos yn Golwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Os yr wyf i yn euog o wall ramadegol yna rhaid syrthio ar fy mai. Ond yr hyn sydd wedi fy ngwylltio i ambell waith yw bod llythyr wedi cael ei gyhoeddi hefo ambell i gamsillafiad- neu, yn gywirach- camdeipio gan staff Golwg. Gwarthus! Mwy o ofal, os gwelwch yn dda.
    Nid wyf i yn derbyn cyflog neu siec am y llythyron. Faint o bres mae e.e. Lisa Reich yn ei gael am ei cholofn chwydlud yn Golwg?
    Mi fydd gan Y Byd golofn lythyrau wirioneddol ddifyr, egniol a phrysur. A bydd Y Byd yn ofalus iawn ac yn ddigon proffesiynol i beidio camdeipio a gwylltio’r llythyrwr!

  6. Pam Lai ar Ionawr 24, 2008 3:12 am

    Cywiriad: ‘Dan Haul’ nid ‘Cynefin’(ond efallai Cynefin hefyd)

  7. siangregory ar Chwefror 10, 2008 2:21 pm

    Mae Rhodri Glyn Thomas wedi gwneud datganiad wythnos diwethaf ynglyn a’r dolygiad i’r wasg - yr adolygiad yr oedd y Byd yn disgwyl ei ganlynid ar ol gohirio ei lawns.

    Mater o gonsyrn yw nad oes dim ar y wefan hon yn dweud beth yn awr yw amcanion y Byd nag unrhyw drafiodaeth o gwbl wedi bod am y mater.

    A gawn ni wybod beth yn union sydd yn digwydd. Mae’r cyhoedd cymraeg yn haeddu cael gwybod siawns- siawns, ac mae dyletswydd moesol at y cyfranddalwyr.

Gwneud sylw