Tach
28
Datganiad Y Byd
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru, Y Byd |
Mae Cadeirydd Dyddiol Cyf newydd gyhoeddi newyddion pwysig - mae dyddiad lansio Y Byd yn cael ei adolygu.
Hyd nes y daw’r broses o adolygu’r wasg Gymraeg - a’r broses wleidyddol sy’n dilyn - i ben, mae’n amhosib i Y Byd fwrw ymlaen â’r amserlen o fynd i’r wasg ym Mis Mawrth.
Fe allai’r broses orffen cyn bo hir - bydd adolygiad Bwrdd yr Iaith yn dod i ben o fewn ychydig wythnosau. Ond, wrth gwrs, nid yw Dyddiol Cyf yn rheoli’r amserlen na’r broses wleidyddol. Felly mae’n rhaid bod yn gyfrifol ac amyneddgar. I gael papur dyddiol llwyddiannus, mae angen arian cyhoeddus. Mae angen sicrhau seiliau ariannol y fenter, ac mae’n gwneud synnwyr busnes da i adolygu’r sefyllfa.
Dyma’r datganiad
Datganiad gan Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.
“Mae paratoadau ar gyfer sefydlu Y Byd, y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg, yn agosáu at gyfnod allweddol. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad at y wasg Gymraeg, gan gynnwys papur dyddiol Cymraeg.”
“Hefyd rwy’n croesawu adolygiad y Gweinidog Treftadaeth a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o’r wasg Gymraeg, fydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2007. Wrth i’r broses o adolygu’r wasg Gymraeg barhau, mae Dyddiol Cyf yn aros yn eiddgar i glywed pa gefnogaeth fydd ar gael maes o law i helpu ariannu papur dyddiol.”
“Fe hoffwn ddiolch i holl gefnogwyr y fenter am eu cefnogaeth a’u hamynedd, ac rwy’n hyderus y cawn ragor o newyddion positif am ddyfodol y wasg Gymraeg yn gynnar yn 2008. Mae’r amserlen a osodwyd ar gyfer y broses yn golygu ein bod yn adolygu dyddiad lansio Y Byd. Ein cynllun gwreiddiol oedd lansio’r papur ar Fawrth 3ydd, 2008. Yn y cyfamser mae’r gwaith o baratoi ar gyfer ymddangosiad y Byd yn parhau.”

Dwi eitha siomedig fod yr papur wedi cael eu gorhuro unwaith eto. Ond os ma rhaid aros i’r bwrdd yr iaith sicrhau popeth a dyma’r unig ffordd o cael cefnogaeth a pres cyhoeddus.
Mi fydd rhaid i ni gyd aros ;-(
Braf fyddai gweld pwysigion y Cynulliad yn gadael negeseuon positif/cefnogol ar y blog yma!!
Clywais y newyddion yma bore ddoe ar y ffordd i’r gwaith. Fy ymateb cynta’ oedd “gohirio eto, ydi’r papur yma am ddod allan o’r wasg!”
Ond ar ol gwrando ar Ned Thomas ar y Post Prynhawn pnawn ddoe, a darllen y llythyr a gyrhaeddais heddiw, ‘dw i’n medru deall y rhesymau dros gohirio.
Wedi dweud hyn, ‘dyw hynny ddim yn lleddfu rhyw lawer ar y siom.
A gawn ni awgrym o’r dyddiad - neu fis o leia’ - pryd y cawn ni ddarllen rhifyn cynta’r Byd hefo, neu heb, gymorth arian o’r Cynulliad?
Siomedig am yr oedi ar ôl edrych ymlaen am y cyhoeddi ym mis Mawrth. Roeddwn i ‘dan yr argraff fod y papur yn hunan gynhaliol gyda buddsoddwyr ac ati, felly pam fod angen disgwyl. Efallai y byddai’r syniad fod y papur yn ddibynnol am arian gan y llywodraeth yn rhoi’r argraff nad yw’r papur yn olygyddol annibynnol.
Ar nodyn arall, fyddai’n bosib cael cyfraniadau mwy cyson i’r blog, roedd o’n dda iawn wedi etholiadau’r cynulliad ac roeddwn yn mwynhau mynd i’r arferiad o’i ddarllen bron yn ddyddiol - byddai cadw’r momentwm hwn yn hwb i werthiant a thanysgrifiad y papur pan ddaw dydd y lansio. Daliwch ati a phob hwyl, E Roberts