Gwynedd

Categorïau: Uncategorized | 

Mae Cyngor Gwynedd mewn trafferth.
Ar y naill law fe aethon nhw ati i ddechrau proses ymgynghori ar ddyfodol ysgolion cynradd y sir.
Ac ar y llaw arall fe aeth y cyngor ati hefyd i wneud cynlluniau i uno neu gau degau o ysgolion yn groes i ddymuniadau nifer sylweddol o rieni, staff, plant ac etholwyr.

Mae gen i blant mewn un ysgol sydd o dan fygythiad. Mae’r ysgol yn llawn. Mae’r ysgol yn llwyddo. Nid ysgol hanner gwag, sydd yn gwanhau o ddydd i ddydd. Eto’r bwriad yw cau’r ysgol.
Dim eglurhad digonol chwaith.

Mae’n gysur nad yw’r broses ymgynghori ar ben eto. Mae hygrededd y broses yn dibynnu ar y graddau bydd y swyddogion a’r cynghorwyr yn barod i wrando. Mae angen diwygio - ond pa gyfiawnhad sydd yna i ddinistrio ysgolion llewyrchus?

Sylwadau

2 ymateb i “Gwynedd”

  1. Martin Llewelyn ar Hydref 27, 2007 5:13 pm

    Un pwynt positif- mae’n beth da mai Cyngor Gwynedd (llywodraeth leol) sydd hefo’r grym yn yr achos yma- ac nid Llundain neu Gaerdydd.
    Bae Caerdydd yn penderfynu? Byddai rhai Gwyneddwyr yn teimlo eu bod filoedd o filltiroedd o Gaerdydd wedyn!

  2. Richard Jones ar Tachwedd 10, 2007 2:21 pm

    Mewn llawer i ardal yng Ngwynedd nonsens yw’r syniad fod yr ysgol yn galon y gymuned gan fod cynifer o’r plant yn byw yn bell allan o dalgylch naturiol yr ysgol. Mae un ysgol gynradd ym Meirionydd ble mae 77% o’r disgyblion yn dod o dalgylchoedd eraill gyda rhai yn teithio hyd at wyth milltir i’r ysgol o drefi a phentrefi sydd ag ysgolion dda ynddynt. Mae sawl enghraifft arall o fewn y sir!!

Gwneud sylw