Dyma gwestiwn ag ateb o’r Senedd fydd o ddiddordeb i gefnogwyr Y Byd…….trafodaeth ddaeth yn sgil datganiad gan Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth.
Dyma’r uchafbwyntiau perthnasol.

Paul Davies AC, Ceidwadwr :

“Croesawaf y cyhoeddiad heddiw ei fod ef, fel minnau, yn dymuno creu Cymru ddwyieithog, drwy roi statws iaith swyddogol i’r Gymraeg a sefydlu comisiynydd iaith. Yr wyf hefyd yn croesawu cynnydd mewn gwariant ar bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg. Fodd bynnag, mae ‘Cymru’n Un’ yn sôn am sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg ond ni chyfeirir at hynny yn y datganiad hwn. A wnaiff rwymo’r Llywodraeth i gefnogi papur newydd dyddiol Cymraeg? Fel y gŵyr, yn ôl pob tebyg, mae papur newydd dyddiol Cymraeg o’r enw Y Byd ar ganol cael ei sefydlu. Os yw’n cefnogi’r papur newydd hwn, a wnaiff roi sicrwydd y bydd yn cael cymorth ariannol a rhoi awgrym i ni o ba faint y bydd hwnnw?”

Rhodri Glyn Thomas AC, Gweinidog Treftadaeth:

“Unwaith eto, croesawaf eich sylwadau am y Gymraeg. Cyfeiriasoch yn benodol at gymorth ar gyfer papur newydd dyddiol yn y Gymraeg—ydym, yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur o’r fath. Cyfeiriasoch at Y Byd, ond pe byddem yn cefnogi papur newydd dyddiol, mae’n amlwg na allem roi ein holl gefnogaeth i un papur penodol—byddai’n rhaid ei chynnig ar dendr, a byddai’n rhaid i ymgeiswyr eraill gael cyfle, os dymunent, i geisio cael mynediad at y cyllid hwnnw. Holasoch am swm penodol; gwelaf fod y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yma, ac yr wyf yn dal i negodi’r swm penodol hwnnw gydag ef a’i swyddogion. Yn y pen draw, y Cabinet a fydd yn penderfynu ynghylch yr arian a aiff at bapur newydd dyddiol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad wedi’i wneud—yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur newydd dyddiol yn y Gymraeg.”

Sylwadau

Un ymateb i “Newyddion o’r Cynulliad”

  1. Martin Llewelyn ar Hydref 9, 2007 9:22 am

    Bydd yn ddiddorol iawn gweld faint o aelodau’r Cynulliad fydd yn gyrru llythyr at adran ohebiaeth Y Byd o bryd i’w gilydd h.y. pwy ac o ba blaid.
    Mae’n hollol amlwg i mi y bydd y papur yn rhoi chwarae teg i bob plaid- gan gynnwys pleidiau llai e.e. Plaid Werdd Cymru?
    Sylwadau Paul Davies uchod: mae ambell i Geidwadwr (e.e. Wyn Roberts: http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/Etholiadau/1983/PLET8304.htm ) wedi gwneud gwaith da iawn dros y Cymraeg yn y gorffennol.
    Bydd y misoedd cyntaf yn rhai pwysig iawn i Y Byd parthed hygrededd, tegwch i bob plaid, amhleidioldeb. Dyma un ffordd amlwg iawn o sicrhau dyfodol disglair i’r papur, adeiladu ty ar graig a.y.y.b.

Gwneud sylw