Gareth Jenkins

Categorïau: Uncategorized | 

Sacked. Pennawd mae’r Western Mail wedi ymgyrchu i ysgrifennu ers misoedd.
Roedd hi’n ganlyniad aruthrol siomedig i dîm rygbi Cymru, ac mae’r cyfryngau Cymreig wedi dechrau proses arall o or-ymateb.
Dydd Sadwrn fe welwyd gem orau cwpan y byd. Roedd Cymru ar fin cwblhau buddugoliaeth arwrol pan gafodd Fiji’r hyfdra i daro ‘nol. Gyda ychydig bach o lwc, byddai Cymru wedi ennill y gêm. Byddai hynny, yn ôl pob tebyg, wedi arwain at grasfa yn rownd yr wyth olaf, ond byddai pawb wedi mynd adref yn fodlon.
Yng nghanol yr asesiad o’r methiant, mae un peth ar goll. Beth oedd cyfraniad y Western Mail ? Roedd gan Gareth Jenkins broblem barhaol drwy’r gystadleuaeth. Roedd ganddyn nhw newyddiadurwyr ar y daith oedd yn barod i hyrwyddo a chanmol yn ogystal â chreu rhwygiadau niweidiol yng nghanol y garfan. Nid adlewyrchu rhwygiadau, sydd yn ddigon teg. Ond roedd e’n gwbl amlwg i mi fod y Western Mail yn barod i fynd y tu hwnt i hynny.
Fe gollodd Gareth Jenkins y frwydr yn erbyn y papurau. Roedd colli yn erbyn Fiji yn fwy tebygol wedyn.

Sylwadau

2 ymateb i “Gareth Jenkins”

  1. Martin ar Hydref 1, 2007 10:28 pm

    Byddaf yn mwynhau gwylio ambell i gem rygbi bwysig. Credaf taw pêl-droed (ac nid rygbi) yw gwir gamp cenedlaethol Cymru. Hoffwn weld Y Byd yn rhoi mymryn mwy o sylw i ffwtbol na rygbi yn y papur.
    ‘Dwi ddim yn gweld dim byd o’i le mewn adran chwaraeon di-flewyn ar dafod yn Y Byd ambell waith (ond heb fod yn rhy dros ben llestri). Mymryn o sbeis call. Pam lai?!

  2. Dafydd ar Hydref 3, 2007 10:47 am

    Mi ddarllenais i’r WM ddydd LLun ac roed rhai o sylwadau Abandanato am Jenkins yn sbeitlyd a dweud y lleia. Roedd e’n dweud pethau fel…..’the mess that Jenkins has left the Welsh rugby in’ a ‘…..pick up the pieces after Jenkins’. Ti’n iawn i ddweud y gallai Cymru wedi ennill erbyn Fiji ond nid oherwydd lwc….ond jysd petai’r capten wedi tawelu’r tim a dweud wrth Stephen Jones i gicio mwy o’r ciciau cosb cyflwynwyd iddynt. Mi adawodd y tim Jenkins lawr. Welaist ti’r Fijiaid yn canu eu hanthem cyn y gem? Y dagrau yn llifo. Cymharer hyn a nifer o aelodau tim Cymru…..ambell un ddim yn canu o gwbl a winc fach gan un arall…..gallu di ddim cru pwrs sidan mas o glust mochyn…..

Gwneud sylw