Medi
17
Tyfu Lan
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw mae Rhodri Morgan yn hawlio bod Cymru wedi “tyfu lan” ers y refferendwm ar ddatganoli.
Yn ei araith mae Rhodri Morgan yn asesu Cymru cyn ‘97.
Prin oedd hyder Cymru yn ei bywyd cyhoeddus, meddai.
Mae’n cydnabod - roedd gan Gymru fudiadau fel yr Urdd, Merched y Wawr, UCAC a’r FUW a oedd yn dangos mesur o annibyniaeth. Mudiadau, yn ôl Rhodri Morgan oedd yn gweithredu yn rhannol o fewn “preifatrwydd yr Iaith Gymraeg”.
Awgrym efallai, gan fod y mudiadau yma yn Gymraeg, doedden nhw ddim yn cyfri.
Neu efallai ‘doedd Cymru gyfan ddim yn ymwybodol o waith y mudiadau hyn. Beth bynnag mae gan Mr Morgan neges hyderus.
Mae Cymru wedi newid yn sylfaenol ers 1997.
Mae Cymru wedi symud y tu hwnt i gwyno am ei thynged ac wedi dechrau cymryd camau positif i wella bywyd yng Nghymru, meddai.
O bosib mae’r ddadl o blaid Senedd rymus yng Nghaerdydd yn cryfhau.
Mae hyn yn cael ei gefnogi gan arolwg Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae awgrym yma mai dim ond 17% o boblogaeth Cymru sy’n gwrthwynebu datganoli yn llwyr erbyn hyn. Ond lleiafrif : 42% sydd o blaid senedd â grymoedd deddfu llawn. Mae’r gwrthwynebiad i ddatganoli yn diflannu. Ond mae hynny yn wahanol i ennill y ddadl o blaid troi adeilad y Senedd yn Senedd go iawn.

Cwestiwn annelwig: A yw Cymru’n wlad fwy hunan hyderus nawr? Sut mae mesur hunan hyder cenedlaethol? A oedd Cymru’n ddigon aeddfed a hunan hyderus ar gyfer cynnal y Brifwyl yn Lerpwl eleni?
Nid wyf yn ry hoff o alw’r adeilad yn y Bae yn ‘Senedd’ chwaith. ‘Roedd gan y Dr John Davies gynnig gwych ac addas (sef ‘cymanfa’):
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4680000/newsid_4683800/4683880.stm
Tyfu Lan/magu hunan hyder:
Difyr iawn oedd ymeld a un o siopau CDau mwyaf Gogledd-Orllewin Lloegr unwaith. Yr adran Geltaidd: digon o stwff Gwyddelig (rhan fwyaf o’r Ynys Werdd yn annibynnol), Yr Alban yn ail o ran ystod y dewis (hefo Senedd hefo cryn dipyn o rym), ac yna Cymru druan yn 3ydd (Cynulliad). Cyd-ddigwyddiad? Cnoi cnil…
Diolch byth am yr Alban.