Treftadaeth

Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 

‘Dwi ddim, fel arfer, yn bedantig am eiriau. Mae heddiw yn eithriad.
Mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei benodi yn weinidog Treftadaeth, ac mae hynny yn cynnwys gofalu am y Gymraeg. Mae rhoi’r Gymraeg ym mocs y gair Treftadaeth yn fy ngwneud yn anghyfforddus. I mi mae’r teitl yn rhoi’r Gymraeg yno gyda’r cestyll a’r amgueddfeydd.
Fe all hynny chwarae i gyfeiriad pobl sy’n methu cydnabod Cymraeg fel iaith naturiol ond yn rhywbeth academaidd sydd yn perthyn i’r gorffennol. Neu ydw i yn bedantig?

Sylwadau

5 ymateb i “Treftadaeth”

  1. Rhys ar Gorffennaf 20, 2007 12:13 pm

    Na, dwi’n cytuno. Mae’n ddewis anffodus (a rhyfedd).

  2. Martin Llewelyn ar Gorffennaf 20, 2007 3:21 pm

    Fel rhywun sy’n mwynhau gwrando/gwylio fideos cerddorol Cymraeg ar iwtiwb a maisbes, dwi’n gobeithio yn arw fod gan yr hen(wel…ifanc/ffres) iaith ddyfodol disglair o’i blaen. Iawn- ni ellir, ac ni ddylid anghofio y gorffennol. Ond y gair “treftadaeth”- sbio yn ol ydi hyn. Y neges anghywir?
    Serch y ffaith fod gan y diwylliant Cymraeg lot i’w gynnig i bobl ifanc, ‘does ganddi hi ddim delwedd digon cwl ymysg miloedd o lafnau ifanc. Nid oeddwn i yn gwrando ar lwyth o stwff Cymraeg pan yn yr ysgol uwchradd. ‘Doedd gen i ddim diddordeb!
    Mmmm…dwi’n siwr y bydd Mistar Glyn Thomas yn gwneud gwaith da iawn. Ond dyma fy syniad i o rywun delfrydol ar gyfer y swydd:
    Rhywun gweddol ifanc, 20-29 mlwydd oed, yn wreiddiol o’r Cymoedd sydd wedi dysgu’r Gymraeg (lefel uchel iawn) fel ail iaith. Rhywun cwl- ond tydw i ddim yn son am rhyw lol cwl fel Posh a Becks…

  3. dafydd ar Awst 9, 2007 10:26 am

    Na dwi’n credu ein bod ni’n bod yn orsensitif fan hyn.

    Wrth gwrs fod ein hiaith ni fatha pob iaith arall yn y byd yn rhan o’n treftadaeth ni. Rhywbeth i’r presennol ydi treftadaeth wedi’r cwbwl, rhodd werthfawr ayyb

    Byddai creu gweinidogaeth newydd o’r enw, ‘ifanc a ffynci a pherthnasol a wir ichi mae o’n hollol cwl i bobol ifanc a rili rili modern wir wir yr’ a rhoid yr iaith yn y portffolio yma yn pleshio!?

    Dwi ddim yn credu fod yna gefnlen negatif i’r gair treftadaeth

  4. Martin Llewelyn ar Awst 15, 2007 10:29 am

    Efallai y byddai’n ddiddorol cynhyrchu holiadur a gofyn i e.e. 200 o blant ysgol: pa eiriau neu syniadau sy’n llamu i flaen y meddwl hefo’r gair TREFTADAETH? Cestyll, gorffennol, amgueddfa, sych, hen ffasiwn, diflas, henoed a.y.y.b. Tybed a fyddai’r geiriau yma yn boblogaidd gan fwyafrif?

    Yn y pendraw, nid teitl y swydd sy’n bwysig, ond yn hytrach yr hyn sy’n cael ei gyflawni.

    Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio y gair “heniaith” ambell waith. Wps…
    ‘Roedd gan Rhodri G Thomas sbectol haul trendi iawn ar faes y Brifwyl eleni. Tybed a ydyw wedi darllen y blog yma’n ddiweddar?!

  5. Bratiaith ar Awst 21, 2007 12:43 pm

    Mae pocedi lle mae iaith yn fyw. Ond yn siarad fel rhywun o Gaerdydd rhaid gyfaddef y mae gair treftadaeth yn air cymmwys iawn.

    Nid fod hyn yn dileu potensial Y Gymraeg fel rwpeth i’r dyfodol.

Gwneud sylw