Chwilio am sylw

Categorïau: Uncategorized | 

Mae’n ymddangos i mi mae’r cyfwng yw’r stori erbyn hyn. Alastair Campbell, ac yna helynt y Frenhines a’r BBC, oedd straeon cofiadwy’r dyddiau diwethaf.
Nawr, y bore yma, mae rhai o benaethiaid BBC Cymru yn defnyddio tudalennau’r Western Mail i gwyno nad yw’r BBC y tu allan i Gymru yn rhoi digon o sylw i’r Cynulliad a Chymru yn gyffredinol.
Mae’n gŵyn dilys.
Camwch y tu allan i Gymru a does dim newyddion am Gymru ar y teledu, ar y radio neu yn y papurau.
Y rheswm am hyn wrth gwrs yw absenoldeb digon o ohebwyr gan y cyfryngau Prydeinig yng Nghymru.
Tan yn ddiweddar roedd gan newyddion “rhwydwaith” y BBC yr un nifer o ohebwyr yma yng Nghymru a oedd ganddyn nhw yn Gaza. Heb deimlad o berchnogaeth sy’n datblygu o gael presenoldeb parhaol yma, anaml iawn mae golygyddion y BBC yn Llundain neu’r Papurau Prydeinig yn gweld Cymru fel rhan o’u “patch” nhw. Mae’n rheswm arall i ganolbwyntio ar gryfhau’r cyfryngau torfol o fewn Cymru yn hytrach na disgwyl i rywun arall, mewn lle arall, wneud hynny ar ein rhan.

Sylwadau

Un ymateb i “Chwilio am sylw”

  1. Bratiaith ar Awst 10, 2007 5:35 pm

    Mae’r broblem yn ddyfnach. adloniant yw’r newyddion y dyddiau ‘ma rwy’n ofni. Pam fod marwolaeth Shambo’n dwyn mwy o sylw na streiciau’r swyddfa post er enghraifft?

Gwneud sylw