Gor
9
Poen yn y Bol
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Mae Rhodri Morgan wedi treulio’r noson yn yr ysbyty ar ôl cael trafferthion gyda’i stumog. Mae disgwyl iddo ddychwelyd i’w waith yfory.
Fe ddywedodd y Prif Weinidog bod clymblaid gyda Plaid neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddewis rhwng yr “inedible a’r unpalatable”. Nawr ‘ni’n gwybod pa un oedd yr “inedible”.
Wrth gwrs mae datblygiadau’r penwythnos yn ddiwedd i un proses cymhleth, a dechrau i broses cymhleth arall. Mae’r canlyniadau yn rhoi mandad clir i Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones fwrw ymlaen a’r rhaglen i lywodraethu Cymru. Ond bydd trafodaethau anodd yn dechrau yn fuan i gytuno ar y gyllideb.
Mae gen i un neu ddau o gwestiynau o ran cydbwysedd y Cynulliad nawr. Mae’r gwrthbleidiau yn gymharol wan nawr o ran nifer. Felly bydd y sgriwtini gawn ni o hyn ymlaen yn dibynnu ar ba fath o ryddid fydd gan Aelodau Cynulliad o bob plaid i fynegi barn yn agored.
Bydd yn rhaid i’r Cynulliad barhau i symud i ffwrdd o batrwm gwaith San Steffan er mwyn i’r system weithio.
Felly mae gan y cenedlaetholwyr rhywfaint o rym yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Tybed sut mae stumog Dr Paisley?

Fel dywedodd Dafydd Wigley, y broblem fydd gan y glymblaid rwan fydd cael digon o arian i basio poeth oedd yn y ddogfen One Wales. Fuaswn i ddim yn disgwyl dim help gan aelodau seneddol Llafur i ddwyn perswad ar y Trysolys, maent yn fwy tebygol o ddial ar y glymblaid drwy ddistrywio unrhyw ymgais i gael fwy o arian i Gymru.
Tybed a ydi digwyddiadau’r wythnosau diwethaf yma wedi cael effaith ddrwg ar iechyd Mr Morgan? Bydd rhai gwleidyddion yn ffynnu ar fymryn o heip, ffys a stwr, tyndra a phwysau… Tydi Rhodri Morgan ddim i weld i mi fel y teip sy’n ddioddef yn ormodol hefo straen tra’n gweithio.
Hyn yn fy atgoffa o frawddeg enwog Harry S. Truman- cyn Arlywydd yr UD:
http://www.phrases.org.uk/meanings/get-out-of-the-kitchen.html
Fel dwi wedi sgwennu o’r blaen: dwi’n parchu gallu deallusol Rhodri Morgan. Bydd yn cyfrannu llawer iawn mwy i ddyfodol Cymru.