Gor
6
Nos Sadwrn
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Tybed pa siâp fydd ar wleidyddiaeth Cymru erbyn nos Sadwrn?
‘Dwi methu help meddwl hefyd, pa siâp fydd ar y Blaid Lafur Gymreig?
Mae’r rhaniadau sydd wedi dod i’r amlwg (eto) yn frawychus.
Brawychus hyd yn oed i’r Blaid Lafur Gymreig, sydd yn greadur rhyfedd iawn. Mae ganddi groen trwchus, a hanes o wrthsefyll rhwygiadau.
Wrth gwrs mae agwedd nifer fawr o Aelodau Seneddol Llafur tuag at eu ffrindiau ym Mae Caerdydd wedi bod yn wenwynig o’r cychwyn. Bach iawn o barch, a chryn dipyn o eiddigedd sydd wedi llywio eu barn.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am aeddfedrwydd gwleidyddol y broses
o ffurfio clymbleidiau a’r ymgais i ffurfio llywodraeth er lles pobl Cymru.
Hyd nes i Aelodau’r Cynulliad a’r Aelodau Seneddol gydweithio a’i gilydd, bydd aeddfedrwydd gwleidyddol Cymru yn aros yn yr unfan - a bydd llunio deddfau newydd i Gymru yn hunllefus.
Roeddwn edrych ymlaen at weld coverage diddorol y Western Mail o’r stori fawr wleidyddol heddiw.
Drwy’r wythnos mae’r clymbleidio wedi llenwi’r tudalennau blaen. Dim byd tan dudalen 12 er mai heddiw yw diwrnod y bleidlais fawr.
Ond yn bwysicach fyth mae’r cydbwysedd ar goll.
Ers wythnos - dim ond un ochr o’r stori sydd wedi ymddangos yn glir mewn print. Kim Howells, Don Touhig a Paul Murphy sydd wedi ennill y frwydr yn y papurau…

Hwyrach fod y Luddites wedi ennill y frwydr yn y Western Mail ond mewn gwirionnedd crasfa go iawn mae yr AS’s oedd yn erbyn y glymblaid wedi ei gael. Yn fwy na dim mae hon wedi bod yn fuddugoliaeth i Gymru dros Brydeindod unoliaethol…hip, hip, hwre!!