Gor
2
Terfysgaeth
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Methiant oedd ymosodiad y terfysgwyr yn Llundain. Yn Glasgow, fe losgwyd petrol, nwy ac un ymosodwr (mae’n debyg) ond heblaw am ddifrod i adeilad, dim niwed parhaol.
Yn aml does dim persbectif Cymreig arbennig i straeon mawr fel hyn.
Ond y tro hwn roedd rhywbeth yn wahanol. Gan fod yr ymosodiad wedi digwydd yn yr Alban, mae rhai pobl - arbenigwyr, newyddiadurwyr, gwleidyddion yn meddwl mai Cymru sy’ nesa.
(Gweler pennawd y W Mail -”Wales now a target for bomb terror, say experts”)
Mae datganoli yn medru cael sgil effeithiau rhyfedd ym meddyliau pobl. Gobeithio nad yw’r terfysgwyr yn meddwl fel hyn hefyd.
Wrth gwrs mae terfysgaeth wedi bod yn agos i Gymru o ‘r blaen. Mae Llundain yn agosach yn ddaearyddol at Gymru na’r Alban, heb son am Warrington, Brimingham a Manceinion.
Petawn i yn ysgrifennu erthygl olygyddol ar yr ymosodiadau - mi fyddai yn anodd peidio ymuno a’r consensws. Does neb yn derbyn esgusodion am derfysgaeth mewn democratiaeth. Yn ôl rhai adroddiadau fodd bynnag, tramorwyr oedd rhai o’r terfysgwyr. Ac mae hynny yn cadarnhau natur ryngwladol y broblem. Does dim modd felly, i safiad cadarn gan yr awdurdodau atal terfysgaeth.
Bydd yn rhaid, rywbryd, wynebu’r problemau sydd yn annog pobl i ymosod fel hyn.
