Gor
20
Treftadaeth
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 5 sylw
‘Dwi ddim, fel arfer, yn bedantig am eiriau. Mae heddiw yn eithriad.
Mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei benodi yn weinidog Treftadaeth, ac mae hynny yn cynnwys gofalu am y Gymraeg. Mae rhoi’r Gymraeg ym mocs y gair Treftadaeth yn fy ngwneud yn anghyfforddus. I mi mae’r teitl yn rhoi’r Gymraeg yno gyda’r cestyll a’r […]
Gor
16
Chwilio am sylw
Categorïau: Uncategorized | 1 sylw
Mae’n ymddangos i mi mae’r cyfwng yw’r stori erbyn hyn. Alastair Campbell, ac yna helynt y Frenhines a’r BBC, oedd straeon cofiadwy’r dyddiau diwethaf.
Nawr, y bore yma, mae rhai o benaethiaid BBC Cymru yn defnyddio tudalennau’r Western Mail i gwyno nad yw’r BBC y tu allan i Gymru yn rhoi digon o sylw i’r Cynulliad […]
Gor
9
Poen yn y Bol
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 2 sylw
Mae Rhodri Morgan wedi treulio’r noson yn yr ysbyty ar ôl cael trafferthion gyda’i stumog. Mae disgwyl iddo ddychwelyd i’w waith yfory.
Fe ddywedodd y Prif Weinidog bod clymblaid gyda Plaid neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddewis rhwng yr “inedible a’r unpalatable”. Nawr ‘ni’n gwybod pa un oedd yr “inedible”.
Wrth gwrs mae datblygiadau’r penwythnos yn ddiwedd […]
Gor
6
Nos Sadwrn
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 1 sylw
Tybed pa siâp fydd ar wleidyddiaeth Cymru erbyn nos Sadwrn?
‘Dwi methu help meddwl hefyd, pa siâp fydd ar y Blaid Lafur Gymreig?
Mae’r rhaniadau sydd wedi dod i’r amlwg (eto) yn frawychus.
Brawychus hyd yn oed i’r Blaid Lafur Gymreig, sydd yn greadur rhyfedd iawn. Mae ganddi groen trwchus, a hanes o wrthsefyll rhwygiadau.
Wrth gwrs mae agwedd […]
Gor
2
Terfysgaeth
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | Gwneud sylw
Methiant oedd ymosodiad y terfysgwyr yn Llundain. Yn Glasgow, fe losgwyd petrol, nwy ac un ymosodwr (mae’n debyg) ond heblaw am ddifrod i adeilad, dim niwed parhaol.
Yn aml does dim persbectif Cymreig arbennig i straeon mawr fel hyn.
Ond y tro hwn roedd rhywbeth yn wahanol. Gan fod yr ymosodiad wedi digwydd yn yr Alban, mae […]
