Y Glymblaid a’r Byd

Categorïau: Y Byd | 

Ymhlith pethau eraill, mae dogfen y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn addo rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol i bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg.
Mae’r ddogfen yn cynnwys addewid penodol i gefnogi papur dyddiol Cymraeg. Roedd cefnogi papur dyddiol Cymraeg eisoes yn nogfen clymblaid yr enfys, felly mae consensws gwleidyddol ymarferol wedi tyfu gyda’r ymgyrch i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Mae’n newyddion da iawn i bawb sydd yn cefnogi’r ymgyrch i sefydlu y Byd - ac i bawb sydd am weld newyddiaduraeth Cymraeg yn datblygu.

Sylwadau

Un ymateb i “Y Glymblaid a’r Byd”

  1. Martin ar Mehefin 30, 2007 12:55 pm

    Yr hyn sy’n bwysig ynghylch Y Byd yw’r ffaith y bydd y papur yn amhleidiol- ond rhaid cyfaddef nad wyf yn siwr iawn os yw hyn yn 100% bosibl.
    Mae rhai papurau newydd yn hoff iawn o bwysleisio’r natur niwtral yma hefo rhyw fath o “sloganau” hawdd eu cofio sy’n ymddangos ar y dudalen flaen pob dydd e.e. Bild yn Yr Almaen.

Gwneud sylw