Hwyl Fawr

Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 

Cyn bo hir, bydd Gordon Brown yn camu lawr y grisiau o’i fflat yn 10 Downing Street i swyddfa Tony Blair. Dwi’n dychmygu shredder prysur.

Yn ystod cyfnod Tony Blair, mae Cymru wedi ei thrawsnewid ac wedi mwynhau yr offer a’r llonydd angenrheidiol i ddatblygu fel democratiaeth. Er gwaethaf y tueddiadau i reoli a chanoli - yn enwedig o fewn y Blaid Lafur, mae Blair wedi caniatáu i Brydain fawr ddatganoli.
Doedd e ddim yn hoffi ni lot, ond mae gennym lywodraeth ac adeilad yn llawn gwleidyddion yng Nghaerdydd nawr, yn hytrach na John Redwood.

Mae’r Dwyrain canol mewn llanast, ac mae Tony Blair yn wynebu her arall i gyfiawnhau ei swydd newydd fel cennad rhyngwladol. Ymhlith y Palesteiniaid a’u cefnogwyr mae ei enw ar yr un rhestr a llywodraeth Israel a George Bush.
Mae ganddo gyfle nawr i atgyweirio peth o’r difrod.

Dwi’n methu help meddwl am y pethau materol sydd wedi newid hefyd. Yr economi, twpsyn. Mae cyfoeth ariannol y boblogaeth fel petai e wedi elwa ers ‘97. Ond mae’r dyledion yn fawr hefyd. Rwy’n gweld mirage economaidd yn seiliedig nid ar gynhyrchu nwyddau a thalu amdanyn nhw- ond darparu gwasanaethau a benthyca..

Does neb chwaith yn credu am eiliad fod cyfnod spin ar ben. Mae’r angen amdano - i Gordon Brown yn enwedig- mor fawr ag erioed.

Sylwadau

Gwneud sylw