Meh
24
Dyn Gwyllt
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Roedd hi’n olygfa ryfeddol. Tony Blair yn eistedd yn gynulleidfa yn gwrando ar Gordon Brown, arweinydd y Blaid Lafur. Roeddwn yn edrych ar rali ym Manceinion i ddathlu penodiad Mr Brown fel arweinydd ac etholiad Harriet Harman fel dirprwy.
Fe glywsom nifer o addewidion uchelgeisiol - gan gynnwys pwyslais mawr ar sicrhau tai fforddiadwy, a phwyslais arwyddocaol hefyd, gobeithio, ar gynnig polisi tramor mwy llwyddiannus.
Ond fe ddefnyddiodd y geiriau New Labour hefyd yn fwriadol, awgrym o’r parhad a’r sefydlogrwydd mae llawer yn disgwyl gweld.
Hefyd roedd Ms Harman yn denu cefnogaeth y dorf wrth iddi addo newidiadau sylfaenol i’r blaid Lafur. Nid ffan club i’r arweinydd fydd aelodau y blaid Lafur o hyn ymlaen, meddai.
I mi mae’r digwyddiadau yma yn ymwneud a delweddau - iaith gorfforol : hyder a gwen Gordon Brown, a Tony Blair fel petai e’n diflannu i ganol y dorf.
Ac yna, fe ddaeth y ddelwedd ysgytwol. Wrth i Harriet Harman adael y neuadd, gan ysgwyd llaw a chusanu am yn ail - dyma ddyn gwyllt (iawn) yr olwg yn symud yn sydyn tuag ati - a gafael ynddi. Rhodri Morgan.
