Mawrth 03, 2008

Categorïau: Y Byd | 

Dyma ddyddiad lansio y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol.
03:03:08
Mae gennym gynhadledd newyddion yng Nghaerdydd (Dydd Mercher) i gadarnhau’r newyddion.

Mae cyfres o gyfweliadau i’w gwneud.
Radio Wales, Radio Cymru, Wedi 7, Newyddion S4C, Golwg, ITV Wales, Real Radio, Radio Ceredigion.
Dim cymaint o ddiddodeb - hyd yma beth bynnag - gan y papurau newydd!!

Pam Mis Mawrth?

Mae’n rhoi’r cyfle gorau i’r papur gasglu tanysgrifiadau a chodi rhagor (ie dwi’n gwybod) o arian. Bydd hynny, rwy’n obeithiol, yn sicrhau seiliau cadarn i’r fenter o’r cychwyn. Rwy’n gwybod bod ambell un yn aros yn eiddgar os nad yn ddiamynedd, ond does dim pwynt lansio yn rhy gynnar.

Mae tanysgrifiadau yn mynd ar werth yn syth (manylion o ddydd Mercher ar wefan ybyd.com) ac yn costio £14.99 y mis ar gyfer y papur a’r we.
£8.99 y mis fydd pris tanysgrifio ar y we yn unig.
(Bydd rhannau o’r wefan ar gael am ddim, ond nid y papur cyfan)
Mae tanysgrifwyr yn elwa - gostyngiad o 17.5% o bris prynu y papur yn ddyddol o’r siopau.
Mae gostyngiad pellach (25%) i ddarllenwyr sy’n tanysgrifio o flaen llaw.

Felly mae gennym amserlen pendant cyn y Gwanwyn.

Sylwadau

Un ymateb i “Mawrth 03, 2008”

  1. Ifan Morgan Jones ar Mehefin 20, 2007 5:21 pm

    Llongyfarchiadau ar gyraedd y pwynt yma! Gobeithio y bydd y lansiad yn llwyddiant, ond yn bwysicach na hynny gobeithio y fydd ganddo’r coesau i lwyddo’n y tymor hir.

Gwneud sylw