Meh
12
Plaid a Llafur
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Mae’n ymddangos heno y bydd Plaid Cymru yn rhan o Lywodraeth nesa’r Cynulliad.
Nid gwrthblaid fydd Plaid Cymru, ond rhan o’r Llywodraeth. Naill ai Llywodraeth glymblaid Rhodri Morgan, neu Lywodraeth glymblaid Enfys Ieuan Wyn Jones.
Wrth gwrs mae’n benderfyniad anodd i Ieuan Wyn Jones. Ydy arweinydd Plaid Cymru yn barod i fod yn aelod o Gabinet yn hytrach nag yn Brif Weinidog?
Mae’n bosib mai cydweithio a Llafur yw’r ffordd fwyaf diogel i Ieuan Wyn Jones.
Mae cydweithio a Llafur yn gwneud synnwyr. Fe ddylai fod yn fwy sefydlog na’r enfys. Mi fydd e’n osgoi’r problemau a gyflwynwyd iddo gan Helen Mary Jones a’i chefnogwyr. Ac - efallai -fydd yr etholiad nesa ddim yn gymaint o hunllef i Blaid Cymru. Byddai ymgyrchu yng nghymoedd y de ar ôl cydweithio am bedair blynedd gyda’r ceidwadwyr yn anodd braidd.
O safbwynt Llafur mae’n gwneud synnwyr hefyd. Sefydlogrwydd. Rhodri Morgan yn cadw ei swydd. Ond mi fydd miloedd o gefnogwyr Llafur yn teimlo yn anghyfforddus hefyd. Mae addo refferendwm ar hawliau deddfu llawn i’r Cynulliad yn gymharol hawdd. Mater arall, wrth gwrs, yw ymgyrchu am bleidlais Ie.
