Meh
11
Thomas Cook
Categorïau: Uncategorized |
Thomas Cook
Mae helynt Thomas Cook, sydd yn cyfyngu ar hawliau eu staff rhag defnyddio’r Gymraeg, yn ddigon i gythruddo’r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg.
Wrth gwrs mae e’n “own goal ” masnachol i’r cwmni hefyd. Dyw e ddim mor anghyffredin â hynny chwaith.
Mae tŷ tafarn yn ardal Porthmadog wedi atal eu staff rhag siarad Cymraeg yn ddiweddar.
Dyw e heb ymddangos yn y cyfryngau eto gan nad oes un aelod o’r staff yn fodlon cwyno yn gyhoeddus am y mater.
Hefyd mae’n amhosib profi rhagfarnau fel hyn yn erbyn y Gymraeg mewn busnesau bach gan nad oes polisi ysgrifenedig o unrhyw fath yn bodoli. Dyna pam efallai, mai cwmni mawr fel Thomas Cook sydd mewn trafferth y tro hwn.
Mae helynt fel hyn yn taflu goleuni diddorol ar y sefyllfa wleidyddol bresennol hefyd.
Dyma ddatganiad i’r wasg ( Saesneg yn unig! )sydd newydd ymddangos gan y Ceidwadwyr Cymreig.
“WELSH Conservatives today stepped up demands for a review of the Welsh Language Act in the wake of a row over a ban on travel agency staff speaking Welsh to discuss work.
The ruling by Thomas Cook that staff must hold work-related conversations in English raises serious questions about the rights of Welsh speakers, the party said today.
Welsh Conservatives have proposed using the Assembly’s new powers to introduce a Measure to create a bilingual Wales.
It would accord official language status to both Welsh and English and establish the office of an independent language commissioner”.
The coalition agreement negotiated between the Welsh Conservatives, Plaid Cymru and the Welsh Liberal Democrats also calls for Welsh language legislation to be reviewed.
The existing Welsh Language Act was introduced by the last Conservative government in the early 1990s.
The Welsh Conservatives’ spokesman on the Welsh language Paul Davies AM said today:
“Welsh Conservatives are committed to protecting the rights of both Welsh and English speakers.
“It is absolutely vital that there is no discrimination between either language wherever people live or work.
“We want to increase the use of Welsh in all spheres of life as part of our desire to create a truly bilingual Wales.
“Businesses should be encouraged, though not compelled, to make maximum use of the Welsh language, not erect barriers to it.
“Education, support and encouragement - rather than compulsion - are effective ways forward in promoting greater use of Welsh.”
Mae’r debyg bydd y Ceidwadwyr yn codi’r mater ar lawr y Cynulliad yfory.

Diddorol fydd gweld os y bydd cenedlaetholwyr sydd eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu yn uno hefo’i gilydd…mewn undeb y mae nerth?
Mae’n debygol y bydd y math yma o straeon yn cael sylw ar dudalen blaen Y Byd o bryd i’w gilydd.
Ond credaf na ddylid rhoi gormod o sylw a mynd dros ben llestri chwaith.
Trafod pethau ‘normal’ mewn papur newydd e.e. Y Gwasanaeth Iechyd, Rhyfel, yr Undeb Ewropeaidd… os bydd e.e. Radio Cymru yn son gormod am “Bynciau yr Heniaith” yna mae yna berygl o fynd fel ton gron…mae mwy i fywyd siaradwyr a darllenwyr Cymraeg na dyfodol a hawliau’r iaith.
Digon o sylw i faterion rhyngwladol e.e. Costa Del Sol, Benidorm, Ibiza (ha,ha) yn y papur…
Wrth gwrs mae’n bwysig bod Y Byd a chyfryngau Cymraeg (a blogwyr Cymraeg) yn trafod pethau heblaw hynt a helynt yr iaith.
Ond fedrwn ni ddim gwadu’r ffaith ei fod yn bwnc pwysig chwaith.
Efallai mai’r pwynt pwysig ydy y dylai straeon hefo hyn gael rhagor o sylw yn y cyfryngau Saesneg a dwi’n meddwl bod ‘na gyfrifoldeb arnom ni dynnu sylw gweddill Cymru, Prydain a’r byd at ein stori ni a stori’r iaith. Yr eironi ydy hyn - os am lwyddo mae angen i ni drafod pethau pwysig fel hyn yn Saesneg o dro i dro!
“straeon fel hyn” oeddwn i’n ei feddwl… sori…
Wedi dod ar draws stori weddol debyg yn Llyfr y Ganrif (Y Lolfa). 1965- ‘Welsh Not’ Meirionydd. “Gyda’r bore ar 29 Mehefin, daeth dau gant o bobl yr ardal ynghyd y tu allan i’r ffatri gyda baneri a phosteri i roi croeso swnllyd i Brewer-Spinks wrth iddo ddod o’r gwaith”.
Mae un peth cyn sicred a phader: ni fyddwn yn gweld 200 o bobl yn protestio y tu allan i siop Thomas Cook ar Stryd Fawr Bangor(?). 1965- ychydig o flynyddoedd yn unig wedi darlith radio Tynged yr Iaith, Saunders Lewis. Cyfnod mymryn bach mwy…wel, bywiog efallai? Tybed a fydd Llyfr y Ganrif arall yn gweld golau dydd yn y flwyddyn 2099 ac yn defnyddio nifer o luniau o eiddo Y Byd??