Dawnsio

Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 

Dawnsio

Mae Rhodri Morgan wedi cyhoeddi rhaglen llywodraeth y Cynulliad. Cyfres o fesurau fydd yn golygu gweithredu ar yr amgylchedd, tlodi plant , tai, yr iaith Gymraeg. Ac yn y cyfamser mi fydd y cynllun adrefnu ysbytai yn cael ei ohirio a’i ail asesu.
Dim byd gall y gwrthbleidiau anghytuno รข felly. Dim eto beth bynnag. Dwi’n meddwl y gwelwn ni ddawns yn datblygu rhwng y llywodraeth a’r enfys, ac fe fydd Ieuan Wyn Jones, Mike German a Nick Bourne yn aros eu cyfle. Ond mae ganddyn nhw broblem. Mae Rhodri Morgan yn ddigon galluog i beidio baglu am beth amser eto.

Sylwadau

2 ymateb i “Dawnsio”

  1. Martin ar Mehefin 8, 2007 6:22 pm

    Yndi, mae’r hen Rhodyrz yn wleidydd galluog. Mae ganddo ddyfnder deallusol, hoffi gwrando ar ei sylwadau ffraeth bob hyn a hyn. Pyns bach digon doniol- hyn yn gwneud gwleidyddiaeth fymryn bach yn fwy diddorol i’r cyhoedd. Dwi’n siwr fod Mr Morgan yn defnyddio hyn fel tacteg positif yn gynyddu lefel y diddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Ond pa ganran o e.e. bobl Gogledd-ddwyrain Cymru fyddai’n gallu enwi Prif Weinidog Cymru? Stopio pobl ar y stryd yn e.e. Y Rhyl. Neu gofyn y cwestiwn i e.e. 200 o bobl yn yr archfarchnad lleol (e.e. Lidl)…
    Ta waeth, gellir dadlau bod mymryn o ffys a stwr ynglyn a digwydiadau’r wythnosau diwetha ‘ma wedi bod yn beth da er mwyn i bobl Cymru gymryd mwy o ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd ym Mae Caerdydd- ond faint o bobl Gogledd-ddwyrain Cymru sy’n gwylio e.e. North West Tonight yn lle Wales Today (BBC) ar y teli bocs.
    Ond mae arnai ofn nad wyf yn gweld yr holl son am e.e. blaid enfys neu clymbleidio yn andros o ddiddorol fy hunan. Ni cheir gwahaniaethau ENFAWR rhwng y prif bleidiau ar ddechrau’r mileniwm newydd yma. Thatcher versus Foot- cyfnod llawer iawn mwy difyr?

  2. Martin Llewelyn ar Mehefin 9, 2007 1:54 pm

    A faint o bobol Gogledd-ddwyrain Cymru sy’n gwybod pwy yw Nick Bourne a Mike German?!?
    Canran isel iawn dybiwn i. Y peth “enfys” ‘ma: tywydd Manceinion, Lerpwl (+ Warsaw nawr??) yw diddordeb mawr nifer sylweddol o drigolion Gog.-ddwyrain Cymru. Mi fydd yna niwl/tarth sy’n eu rhwystro rhag defnyddio ysbienddrychau i weled enfys dros ddinas Caerdydd-sori am fod yn “niwlog” (ha,ha).
    Ond be ydi’r son diweddara? Llafur a Phlaid Cymru yn cydweithio, clymbleidio…priodas am chydig o fisoedd ac yna ysgariad?

Gwneud sylw