Y Papur a’r We

Categorïau: Y Byd | 

Bydd Y Byd yn bapur newydd dau gyfrwng. Papur a’r we.

Bydd tanysgrifwyr yn derbyn y papur trwy gyfrwng eu siop leol, ac yn cael mynediad hefyd i ran arbennig o’r wefan lle bydd y papur cyfan yn ymddangos, yn ogystal ag archif o’r papur.

(bydd pawb arall yn medru darllen y wefan – ond nid y papur cyflawn)

I’r rhai sydd yn dymuno derbyn y papur ar y we yn unig, bydd modd tanysgrifio am bris gostyngol.

Felly bydd gan ddarllenwyr Y Byd ddewis.

Wrth gwrs mae yna drafodaeth fywiog yn digwydd ar hyn o bryd ynglŷn â dyfodol papurau newydd. Ydy’r we yn disodli arferion darllen i’r fath raddau fod papurau newydd mewn peryg? Dyw’r dystiolaeth ddim yn gwbl glir – ond mae’r traffig sydd yn cyrraedd gwefannau newydd yn aruthrol. Ar hyn o bryd does yna ddim gwefan newyddion Cymraeg cyflawn yn bodoli.
Mae Y Byd yn bwriadu llenwi’r bwlch yna hefyd.

Sylwadau

5 ymateb i “Y Papur a’r We”

  1. Rhys ar Mehefin 5, 2007 3:42 pm

    Diddorol! Mae fy mhatrymau darllen newyddion wedi newid yn sylweddol ers i mi dalu am danysgrifiad blwyddyn o Y Byd nol yn 2005 (neu 2004 ;-) ).

  2. Martin Llewelyn ar Mehefin 6, 2007 8:55 am

    Mae safweoedd e.e. Golwg a Barn llawer iawn yn ry hael parthed stwff i’w ddarllen am ddim. Pe bai’r gwefannau yma yn fwy cynnil(?) h.y. trin y peth fel busnes go iawn, yna byddem wedi tanysgrifio misoedd yn ol i’r cylchgronau yma!
    Tybed a ddylai gwefan Y Byd gynnwys polau piniwn diddorol ar y wefan ar ol i’r papur weld golau dydd? Mymryn o sbeis- ysgogi’r meddwl a’r drafodaeth… pobol yn teimlo eu bod yn rhan o’r papur…

  3. Rhodri Moseley ar Mehefin 6, 2007 2:52 pm

    Gwych, fel na gaiff Cymry alldtud fel fi ei ddarllen hefyd!

  4. Martin Llewelyn ar Mehefin 7, 2007 9:07 am

    Ti ddim yn mynd i danysgrifio? Ti’n byw mewn dinas fawr? Tybed a fydd hi’n bosib i chdi brynnu copi mewn siop bapur yng nghanol dinas fawr?

  5. Gareth Jenkins ar Mehefin 8, 2007 8:19 pm

    Byw mewn gobaith-mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers i’r Byd ddweud ei fod yn dod allan.

    Pam nad oes swyddi eto wedi eu hysbysebu.

    Fydd y papur ddim allan yn 2007-neu naf fi ymddiheuro yn gyhoeddus!

Gwneud sylw