Meh
27
Ymhlith pethau eraill, mae dogfen y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn addo rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol i bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg.
Mae’r ddogfen yn cynnwys addewid penodol i gefnogi papur dyddiol Cymraeg. Roedd cefnogi papur dyddiol Cymraeg eisoes yn nogfen clymblaid yr enfys, felly mae consensws gwleidyddol ymarferol wedi tyfu gyda’r […]
Meh
26
Hwyl Fawr
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | Gwneud sylw
Cyn bo hir, bydd Gordon Brown yn camu lawr y grisiau o’i fflat yn 10 Downing Street i swyddfa Tony Blair. Dwi’n dychmygu shredder prysur.
Yn ystod cyfnod Tony Blair, mae Cymru wedi ei thrawsnewid ac wedi mwynhau yr offer a’r llonydd angenrheidiol i ddatblygu fel democratiaeth. Er gwaethaf y tueddiadau i reoli a […]
Meh
24
Dyn Gwyllt
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | Gwneud sylw
Roedd hi’n olygfa ryfeddol. Tony Blair yn eistedd yn gynulleidfa yn gwrando ar Gordon Brown, arweinydd y Blaid Lafur. Roeddwn yn edrych ar rali ym Manceinion i ddathlu penodiad Mr Brown fel arweinydd ac etholiad Harriet Harman fel dirprwy.
Fe glywsom nifer o addewidion uchelgeisiol - gan gynnwys pwyslais mawr ar sicrhau tai fforddiadwy, a phwyslais […]
Meh
21
Mae dyfodiad y papur dyddiol cenedlaethol – ar Fawrth y 3ydd 2008 -wedi ennyn diddordeb mawr. Yn ystod y 24 awr diwethaf bu pob un o’r gorsafoedd radio a theledu Cymreig yn trafod y Byd. . Mae’r brwdfrydedd tuag at y papur yn rhyfeddol- ac mae’r broses o werthu tanysgrifiadau wedi dechrau yn dda.
Yn […]
Meh
19
Dyma ddyddiad lansio y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol.
03:03:08
Mae gennym gynhadledd newyddion yng Nghaerdydd (Dydd Mercher) i gadarnhau’r newyddion.
Mae cyfres o gyfweliadau i’w gwneud.
Radio Wales, Radio Cymru, Wedi 7, Newyddion S4C, Golwg, ITV Wales, Real Radio, Radio Ceredigion.
Dim cymaint o ddiddodeb - hyd yma beth bynnag - gan y papurau newydd!!
Pam Mis Mawrth?
Mae’n […]
Meh
14
Stop press… mae y Byd yn cyhoeddi diwrnod lansio’r papur o fewn y dyddiau nesaf. Mae’n fwriad gennym wneud datganiad cyhoeddus ar Fehefin 20fed. Bydd datganiad yn ymddangos yma ac ar y wefan ar fore’r 20fed.
Bydd aelodau’r clwb cefnogwyr yn derbyn llythyr hefyd i gadarnhau’r newyddion da.
Meh
12
Plaid a Llafur
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | Gwneud sylw
Mae’n ymddangos heno y bydd Plaid Cymru yn rhan o Lywodraeth nesa’r Cynulliad.
Nid gwrthblaid fydd Plaid Cymru, ond rhan o’r Llywodraeth. Naill ai Llywodraeth glymblaid Rhodri Morgan, neu Lywodraeth glymblaid Enfys Ieuan Wyn Jones.
Wrth gwrs mae’n benderfyniad anodd i Ieuan Wyn Jones. Ydy arweinydd Plaid Cymru yn barod i fod yn aelod o Gabinet […]
Meh
11
Thomas Cook
Categorïau: Uncategorized | 4 sylw
Thomas Cook
Mae helynt Thomas Cook, sydd yn cyfyngu ar hawliau eu staff rhag defnyddio’r Gymraeg, yn ddigon i gythruddo’r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg.
Wrth gwrs mae e’n “own goal ” masnachol i’r cwmni hefyd. Dyw e ddim mor anghyffredin â hynny chwaith.
Mae tŷ tafarn yn ardal Porthmadog wedi atal eu staff rhag siarad Cymraeg yn […]
Meh
7
Dawnsio
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 2 sylw
Dawnsio
Mae Rhodri Morgan wedi cyhoeddi rhaglen llywodraeth y Cynulliad. Cyfres o fesurau fydd yn golygu gweithredu ar yr amgylchedd, tlodi plant , tai, yr iaith Gymraeg. Ac yn y cyfamser mi fydd y cynllun adrefnu ysbytai yn cael ei ohirio a’i ail asesu.
Dim byd gall y gwrthbleidiau anghytuno â felly. Dim eto beth bynnag. Dwi’n […]
Meh
5
Bydd Y Byd yn bapur newydd dau gyfrwng. Papur a’r we.
Bydd tanysgrifwyr yn derbyn y papur trwy gyfrwng eu siop leol, ac yn cael mynediad hefyd i ran arbennig o’r wefan lle bydd y papur cyfan yn ymddangos, yn ogystal ag archif o’r papur.
(bydd pawb arall yn medru darllen y wefan – ond […]
