Mai
31
Cabinet newydd
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Dyma ni - y cabinet newydd
Prif Weinidog: Rhodri Morgan
Strategaeth, Gwyddoniaeth (!) Ewrop, Cymru yn y Byd
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol : Edwina Hart
Addysg , Diwylliant a’r Gymraeg : Carwyn Jones
Economi, Trafnidiaeth :Dr Brian Gibbons
Datblygu cefn Gwlad, Cynllunio, Amgylchedd: Jane Davidson
Cyfiawnder Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus/ (Tlodi plant, tai, llywodraeth leol etc) : Andrew Davies
Busnes a Chyllideb y Cynulliad: Jane Hutt
(gan gynnwys deddfwriaeth)
Hefyd - Carl Sargeant - y prif chwip
Diddorol bod Addysg a Diwylliant/ Cymraeg wedi uno….dyrchafiad (?) i Carwyn Jones wrth i’r broses o olynu Rhodri Morgan agoshau…
Iechyd - y dasg anoddaf falle - yn nwylo grymus Edwina Hart
Mae’r economi yn nwylo Dr Gibbons.
Bydd Jane Davidson yn gofalu am yr agenda werdd
ar ol cyfnod hir ym myd addysg…….
Ac ydy hyn yn gic i Andrew Davies tybed.
Dal dim lle i Leighton Andrews - mewn gwirionedd dim wynebau newydd o gwbl.

Mae’n dipyn o bortffolio i Carwyn Jones. Oes gan Jane Davidson bar o wellingtons?
Pwynt cyffredinol-hyd y gwn i, nid yw pob un wan jac o aelodau’r Cabinet (hefyd y 60 aelod yn y Cynulliad!) yn medru’r Gymraeg. Mae arnai ofn nad wyf yn deall. Os yw’r bobl yma mor ddeallus (ac yn cael cyflogau da) yna oni ddylai pob un wneud ymdrech i ddysgu’r heniaith? Tydi hyn ddim yn ormod i’w ofyn. Tyda ni ddim yn son am wyddoniaeth niwclar yn fama… y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y ddwy iaith. Dyna’r cyfan.
O’n i’n meddwl fod Leighton Andrews a Huw Lewis wedi cael swyddi fel dirprwyon? Dwi ddim yn gweld hwy dau yn gneud ryw lawer dros gael consensws yn y Cynulliad!!