Mai
24
Enfys Dros Dro
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Felly mae’r ymgais i greu clymblaid wedi methu. Y bore ‘ma y rheswm am hynny yw diffyg undod y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae Mike German wedi methu ddwywaith i fugeilio ei gathod gwleidyddol i gytuno ar raglen wleidyddol.
Mae’r penderfyniad wedi achub Plaid Cymru rhag penderfyniad anodd iawn – ac o bosib rhwyg tebyg i’r un welwyd yn Llandrindod neithiwr..
Rhodri Morgan sydd a’r dasg anoddaf nawr. Ceisio arwain llywodraeth leiafrifol lle mae’r gwrthbleidiau fwy parod nag erioed i gydweithio. Mae’n rhaid i Lafur wynebu fod y tirlun gwleidyddol wedi newid. Ydy Rhodri Morgan yn ddigon o wladweinydd i edrych y tu hwnt i’r ffiniau pleidiol ac arwain Cymru?
