Newyddion

Categorïau: Y Byd | 

Oes yna ddyfodol i bapurau newydd?

Dyna gwestiwn rwy’n clywed ambell waith.. Wedi’r cwbl mae’r we yn esblygu yn gyflym.
Onid yw papur yn ffordd hen ffasiwn o gyhoeddi newyddion?

Calonogol felly oedd derbyn y ffeithiau yma gan Gymdeithas Papurau Newydd y Byd. Yn ystod 2006 bu cynnydd rhyngwladol o 2% yng nghylchrediad rhyngwladol papurau newydd.
Ac mae nifer y papurau newydd ar gynnydd hefyd. Mae gan ein planed ragor na 11,000 papur newydd erbyn hyn
Propaganda y diwydiant papurau newydd efallai.

Beth felly beth yw’r rhagolygon ar gyfer y Byd ?
Yng Nghymru mae’r farchnad bapurau newydd yn le anghyfforddus a chystadleuol.
Mae’r Western Mail a’r Daily Post wedi crebachu – ac yn gwerthu llai na 40,000 copi yr un bob dydd.

Yr Evening Post yn Abertawe a’r South Wales Echo yng Nghaerdydd yw’r papurau “Cymreig” mwyaf poblogaidd. Mae nhw’n gwerthu rhagor na 50,000 copi yr un bob dydd.

Bydd sicrhau cylchrediad iach i’r Byd yn dipyn o her felly. Mae gan y Byd fantais. Mae darllenwyr Cymraeg yn farchnad arbennig.. a does neb, hyd yma, yn darparu gwasanaeth dyddiol ar gyfer y rhan hon o’r boblogaeth.

Sylwadau

Gwneud sylw