Cyfaddefiad

Categorïau: Y Byd | 

I’r rhai ohonoch sy’n aros am eiddgar am y newyddion diweddara ynglŷn â’r Byd mae’n well i mi gyfaddef.
Does dim newyddion eto am ddyddiad lansio.

Dyma’r lein swyddogol:
Y cyfle cyntaf i lansio fydd diwedd 2007. Fe all fod ar ôl hynny felly.
Os oes newyddion – ac rwy’n obeithiol y daw hynny cyn hir – fe fydd y newyddion swyddogol yn ymddangos yma yn gyntaf.

Ac mae hynny yn fy atgoffa i ….
Ychydig ddyddiau yn ôl fe ges’ i’r pleser o recordio sgwrs ar gyfer Radio Cymru – cyfraniad bach i raglen helaeth ar thema nofel Islwyn Ffowc Elis “Wythnos yng Nghymru Fydd”. Ymhlith pethau eraill mae’r awdur yn rhagweld papurau newydd yng Nghymru’r dyfodol – Cymru ddelfrydol lle mae papur newydd dyddiol Cymraeg yn bodoli ac yn gwerthu 200,000 o gopïau bob dydd!

(12.15, Mercher, BBC Radio Cymru)

Sylwadau

3 ymateb i “Cyfaddefiad”

  1. Martin Llewelyn ar Mai 26, 2007 9:26 am

    Y mwya’n byd o sylw mae Y Byd (joc sal) yn ei gael ar y cyfryngau Cymraeg (heb anghofio’r cyfryngau Eingl-Gymreig!) yna gorau’n y byd…Mae’n bwysig iawn cael mymryn o heip e.e. wythnos cyn i’r papur weld golau dydd. Rhyw fath o “countdown” (ol-gyfrif) cyffrous. Bydd rhai yn dadlau bod angen miloedd ar filoedd o bres i sicrhau hyn. Ond efallai bod modd sicrhau momentwm hefo mymryn go lew o bres a llwyth o ddychymyg. Gobeithio’n wir y bydd hi’n ddiwrnod eitha “distaw” o ran newyddion Prydeinig a rhyngwladol ar y diwrnod mawr. Hyfryd fyddai gweld Huw Edwards (sydd, wrth gwrs, yn gefnogwr brwd o’r fenter) yn cyflwyno eitem newyddion difyr a phositif o stiwdio’r BBC yn Llundain- y 10 o’clock News- y diwrnod lawnsio. Bydd yn rhywbeth digon pwysig a hanesyddol i haeddu sylw.
    Degawdau yn ol, ‘roedd capeli Cymraeg yn Lloegr yn oralwn. Gellir dadlau ei bod hi’n dasg eitha anodd i Y Byd dargedu darllenwyr yn Lloegr (mae ‘na filoedd ar filoedd o siaradwyr yr heniaith yn byw yn Lloegr!) Byddai mymryn o sylw ar deledu Saesneg Prydeinig ar y diwrnod lawnsio yn gwneud y dasg o ail-gysylltu hefo ambell i Gymro/Cymraes yn Lloegr sy’n sychedu am fymryn o ddiwylliant Cymraeg fymryn yn haws.
    Tybed a fyddai prif lyfrgelloedd dinasoedd mawr Lloegr (Manceinion, Birmingham, Llynlleifiad)yn ystyried tanysgrifio i dderbyn Y Byd? Darllenais unwaith yn Y Cymro ei bod hi’n bosibl cael copi o’r papur wytnosol yma yn y carchar yn Lerpwl!

  2. Martin Llewelyn ar Mehefin 7, 2007 9:40 am

    Yma yn un o ddinasoedd mawr Lloegr, bydd ‘gwerthwyr’ y Metro a Manchester Evening News yn barod iawn i roi copi o’r papur newydd yn eich llawn- hyn yn rhad ac am ddim. (MEN am ddim yng nghanol y ddinas o leiaf). Wrth gwrs, ni fydd Y Byd i’w gawl am ddim.
    Ond Y Byd yn talu i rywun roi copi am ddim i bobl ar Heol y Frenhines, Caerdydd, yn ystod yr wythnos gynta yn unig. Pam lai?!
    Talu i rywun wisgo gwisg ffansi (duwcs, pam lai- draig goch ffynci??): “Get your free copy of first daily Welsh newspaper. hoffi coffi. Tipyn bach”. Codi lefel yr ymwybyddiaeth. Normaleiddio’r iaith. ni fydd lawnsiad swil yn ddigon da.
    Hefyd copiau am ddim ar e.e. Stryd Fawr Bangor, Y Maes- Caernarfon- diwrnodau cyntaf yn unig. Ni fydd rhywbeth fel hyn yn costio gormod yn fy marn i.
    Y boi wrth y stand yng Nghaerdydd; “That’s fine, love. I don’t speak Welsh either. There’s an introductory Glossary or dictionary thing on page 25. It’s quite easy to get the basics of a couple of articles if you refer to tha. Go on. give it a go- I can tell your curious. It’s free only for today. Something interesting for you to have a look at on the bus home from work.”
    2000 o gopiau i bobl ar Heol y Frenhines mewn chydig o oriau. Efallai 5% yn unig yn gallu darllen Cymraeg. Gwastraff arian? Na- plannu hedyn. Risg sydd ddim yn gostus iawn i dweud y gwir. (neu gwis arall- glob enfawr efallai? hefo Cymru’n sefyll allan mewn lliw gwahanol. Rhywbeth trawiadol a llygad-dynnol.

  3. Martin ar Mehefin 8, 2007 9:50 am

    Targedu’r farchnad ‘niche’- Capel, Eisteddfod Genedlaethol… yndi, mae rhain yn bwysig. Ond rhaid rhoi sawl wy mewn sawl gwahanol fasged yn yr oes fodern (os ydi hyn yn gwneud synnwyr.)
    Nid pob darllenydd posib sy’n mynd i’r oedfa ar y Sul a mynychu’r Steddfod Gen pob blwyddyn.
    Copiau am ddim ar Heol y Frenhines- llwyddiant/canlyniad posibl:
    5 o ddarllenwyr a fyddai’n prynu’r papur unwaith pob pythefnos;
    2 a fyddai’n prynnu’r papur dwywaith yr wythnos- ffansio newid bach o’r Western Mail- chwilfrydedd;
    ac 1 person yn penderfynu ei brynu pob dydd er mwyn darllen rhywbeth difyr yn ystod ei awr ginio.
    A fyddai llwyddiant ar y lefel yma yn cyfiawnhau talu i rywun weithio ar Heol y Frenhines am wythnos? Cost-effeithiol?

Gwneud sylw