Mai
4
Y bore wedyn
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Efallai bod democratiaeth Cymru yn fwy iach y bore ma, efallai.
Cawsom gyfle i bleidleisio a mynegi barn. Mae’r nifer sydd wedi bwrw pleidlais yn uwch nag o’r blaen.
Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi cael eu gwobrwyo am eu hymgyrchu brwd wrth iddyn nhw gipio eu prif dargedau.
Mae Llafur yn eu tro wedi derbyn ergyd – ond ergyd sydd heb frifo cymaint a hynny eto.
Nawr mae’r darn annemocrataidd yn dechrau.
Bydd y broses o ffurfio llywodraeth yn digwydd yn y dirgel.
Ac efallai mae’r blaid wnaeth berfformio yn rhyfeddol o wael neithiwr – y Democratiaid Rhyddfrydol - fydd yn ennill yn y pendraw.
Efallai.

Byddai, mewn ffordd fe fyddai’n gwbl annemocrataidd i’r Rhyddfrydwyr gael pwer eto.
Faint yn hirach ydyn ni’n gorfod aros cyn gweld yr hyn mae’r rhan fwyaf o etholwyr Cymru am ei weld, sef cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru?
Ac annemocrataidd hollol yw system Peter Hain o wahardd pobl rhag ymgeisio mewn sedd ac ar restr. Oherwydd hyn mae pobl o safon Dafydd Wigley yn cael eu colli o fywyd cyhoeddus Cymru, a rhai o wleidyddion profiadol y pleidiau eraill fel Glyn Davies ac Alun Pugh (nad ydyn nhw’n agos at safon Wigley bid siwr) hefyd yn cael eu colli.