Mai
3
Noson yr Etholiad
Categorïau: Blogio, Gwleidyddiaeth Cymru, Y Byd |
Wel - fel mae nhw’n dweud yn y stiwdios teledu -Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau.
Mae Vaughan Roderick yn ceisio math arbennig o “aml dasgo”(?!) gwleidyddol heno wrth iddo flogio, yn ogystal a bod yn brif bundit ar S4C.
Hyd yma mae ei gyfraniadau dyddiol wedi bod yn werthfawr i ddealltwriaeth llawer ohonom o’r hyn sy’n mynd ymlaen.
Mae llawer o wybodaeth yno sydd heb gyrraedd y rhaglenni teledu a radio confensiynol, (pam tybed?) ac oherwydd hynny mae’n werthfawr dros ben.
Mae blogio wedi datblygu yn rhan bwysig o’r etholiad erbyn hyn. Mae gwersi yma dwi’n siwr i’r Byd wrth edrych ymlaen at yr etholiad nesaf!
