Gyda lwc, bydd gennym bapur dyddiol Cymraeg erbyn yr etholiad nesaf.
Rwy’n edrych ymlaen at y dydd pan fydd adroddiadau dyddiol o’r ymgyrch yn cael eu cyhoeddi mewn papur Cymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at weld gohebwyr y Byd yn cymryd eu lle ymhlith y newyddiadurwyr sydd yn ceisio gwneud synnwyr o’r etholiad.
Bydd presenoldeb y Byd yn beth iach i ddemocratiaeth Cymru dwi’n meddwl. Bydd y Byd yn ffynhonnell arall o straeon, gwybodaeth a barn.
‘Falle hefyd bydd y pleidiau yn gorfod meddwl am y gynulleidfa Gymraeg mewn ffordd ychydig yn wahanol wrth gynllunio eu hymgyrchoedd.
Bydd y Byd, wrth gwrs, yn annibynnol. Ffolineb byddai cefnogi ymgyrch unrhyw blaid arbennig.
Ein blaenoriaeth fydd rhoi digon o gynnwys diddorol a pherthnasol yn y papur – a rhoi digon o le i bawb sydd am wneud hynny fynegi barn..
Er gwybodaeth ‘dwi dal heb benderfynu sut i ddefnyddio fy ail bleidlais. Unrhyw un arall yn yr un picil?

Sylwadau

3 ymateb i “Pleidlais bositif”

  1. Ifan Jones ar Mai 2, 2007 1:24 pm

    Gewch chi bledleisio dros yr un blaid gyda’r ddau!

  2. Iestyn ap Dafydd ar Mai 2, 2007 5:34 pm

    Oni bai bod rhywbeth mawr yn digwydd yn Ne Cymru, does dim pwynt i fi fwrw pleidlais i Blaid Cymru yn y sedd (Islwyn) ac yr y rhestr. O ethol aelod o’r Blaid i Islwyn, bydd hi’n colli aelod o’r rhestr, felly, bydd dim gwahaniaeth i’w ffigyrau terfynol yn y Cynulliad.

    O bleidleisio dros (ac ethol yn llwyddianus) Kevin Etheridge (Llais y Bobl), hwyrach y bydd ‘da ni’r gorau o’r ddau fyd. Ac eto, wy’n eitha hoff o Alan Pritchard (Plaid)…

    Ond o ethol Alan, pa blaid bydd yn cipio’r sedd rhestr…?

    OK, Plaid a Gwyrdd, na Etheridge a’r Blaid, na…. Roedd e’n lot haws pan nad oedd dewis!

  3. Martin ar Mai 2, 2007 9:52 pm

    Sylw Ifan Jones: dyna oedd neges gan Blaid Cymru yn ei ofyn ar dudalen blaen Y Cymro yr wythnos diwethaf. Mi fydd Y Byd yn bapur aeddfed- does dim amheuaeth ynglyn a hyn (wel, gen i beth bynnag).

Gwneud sylw