Mai
31
Cabinet newydd
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 3 sylw
Dyma ni - y cabinet newydd
Prif Weinidog: Rhodri Morgan
Strategaeth, Gwyddoniaeth (!) Ewrop, Cymru yn y Byd
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol : Edwina Hart
Addysg , Diwylliant a’r Gymraeg : Carwyn Jones
Economi, Trafnidiaeth :Dr Brian Gibbons
Datblygu cefn Gwlad, Cynllunio, Amgylchedd: Jane Davidson
Cyfiawnder Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus/ (Tlodi plant, tai, llywodraeth leol etc) : Andrew […]
Mai
26
Enfys arall
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 1 sylw
Mae enfys arall ar y gorwel. Anhygoel. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sylweddoli bod mwy o ddylanwad mewn llywodraeth na mewn gwrthblaid. Dyna beth yw aeddfedrwydd gwleidyddol!
Mai
24
Enfys Dros Dro
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | Gwneud sylw
Felly mae’r ymgais i greu clymblaid wedi methu. Y bore ‘ma y rheswm am hynny yw diffyg undod y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae Mike German wedi methu ddwywaith i fugeilio ei gathod gwleidyddol i gytuno ar raglen wleidyddol.
Mae’r penderfyniad wedi achub Plaid Cymru rhag penderfyniad anodd iawn – ac o bosib rhwyg tebyg i’r […]
Mai
15
I’r rhai ohonoch sy’n aros am eiddgar am y newyddion diweddara ynglŷn â’r Byd mae’n well i mi gyfaddef.
Does dim newyddion eto am ddyddiad lansio.
Dyma’r lein swyddogol:
Y cyfle cyntaf i lansio fydd diwedd 2007. Fe all fod ar ôl hynny felly.
Os oes newyddion – ac rwy’n obeithiol y daw hynny cyn hir – fe fydd […]
Mai
15
Newyddion
Categorïau: Y Byd | Gwneud sylw
Oes yna ddyfodol i bapurau newydd?
Dyna gwestiwn rwy’n clywed ambell waith.. Wedi’r cwbl mae’r we yn esblygu yn gyflym.
Onid yw papur yn ffordd hen ffasiwn o gyhoeddi newyddion?
Calonogol felly oedd derbyn y ffeithiau yma gan Gymdeithas Papurau Newydd y Byd. Yn ystod 2006 bu cynnydd rhyngwladol o 2% yng nghylchrediad rhyngwladol papurau newydd.
Ac […]
Mai
10
Dyled Blair
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | Gwneud sylw
Mae Mr Blair yn mynd wedi’r cwbl.
“A good day to bury bad news?”
Wrth i’r sgarmes o newyddiadurwyr ddilyn Blair o Lundain i Sedgefield mae disgwyl i gyfraddau llog godi. Dyledion personol – yn enwedig myfyrwyr a pherchnogion tai, fydd un o’r pynciau mawr i herio’r Prif Weinidog nesaf. Yn Nghymru mae’n mynd i […]
Mai
4
Y bore wedyn
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 1 sylw
Efallai bod democratiaeth Cymru yn fwy iach y bore ma, efallai.
Cawsom gyfle i bleidleisio a mynegi barn. Mae’r nifer sydd wedi bwrw pleidlais yn uwch nag o’r blaen.
Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi cael eu gwobrwyo am eu hymgyrchu brwd wrth iddyn nhw gipio eu prif dargedau.
Mae Llafur yn eu tro wedi derbyn ergyd – […]
Mai
3
Noson yr Etholiad
Categorïau: Blogio, Gwleidyddiaeth Cymru, Y Byd | Gwneud sylw
Wel - fel mae nhw’n dweud yn y stiwdios teledu -Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau.
Mae Vaughan Roderick yn ceisio math arbennig o “aml dasgo”(?!) gwleidyddol heno wrth iddo flogio, yn ogystal a bod yn brif bundit ar S4C.
Hyd yma mae ei gyfraniadau dyddiol wedi bod yn werthfawr i ddealltwriaeth llawer ohonom o’r hyn sy’n mynd […]
Mai
2
Pleidlais bositif
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 3 sylw
Gyda lwc, bydd gennym bapur dyddiol Cymraeg erbyn yr etholiad nesaf.
Rwy’n edrych ymlaen at y dydd pan fydd adroddiadau dyddiol o’r ymgyrch yn cael eu cyhoeddi mewn papur Cymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at weld gohebwyr y Byd yn cymryd eu lle ymhlith y newyddiadurwyr sydd yn ceisio gwneud synnwyr o’r etholiad.
Bydd presenoldeb y Byd […]
