Machynlleth

Categorïau: Y Byd | 

Rwy’n mynd i Fachynlleth heno – er mwyn cwrdd â rhai o bobl yr ardal ac egluro ein cynlluniau ar gyfer y papur.
Fel y gwyddoch ‘falle mae pencadlys y Byd yn cael ei sefydlu yno, mewn adeilad ardderchog.
Fe fydd gennym adnoddau ardderchog hefyd– a lleoliad canolog i fod yn bapur cenedlaethol.
Wrth gwrs pan fyddwn yn recriwtio, bydd y Byd yn penodi newyddiadurwyr mewn ardaloedd eraill hefyd - gyda’r bwriad o adlewyrchu’r newyddion o bob rhan o Gymru.
Mae’r cyfarfod heno wedi achosi cyffro i rai yn y BBC – fe wnaeth un hen gyfaill fy ffonio yn hwyr iawn neithiwr ar ôl clywed ein bod yn cwrdd yng Nghaerfyrddin er mwyn cyhoeddi dyddiad lansio……newyddion i mi hefyd!

Sylwadau

2 ymateb i “Machynlleth”

  1. Martin Llewelyn ar Ebrill 26, 2007 9:38 pm

    Byddai e.e. prif swyddfa yng Nghaerdydd wedi bod yn gamgymeriad mawr. Byddai Aberystwyth wedi bod yn ddewis rhesymegol. Mae Machynlleth yn benderfyniad diddorol a dewr.

  2. Annette Strauch ar Gorffennaf 27, 2007 4:01 pm

    Ie, dydy hi ddim yn syniad da bod popeth yng Nghaerdydd. ‘Rwy’n cytuno.
    Pob dymuniadau ar gyfer Y Byd.

Gwneud sylw