Mae’n werth gwylio’r anghydfod rhwng BBC Cymru a’r Blaid Lafur heddiw. Mae newyddiadurwyr y BBC a Vaughan Roderick yn arbennig (a thrwy gyfrwng ei flog ardderchog ) yn hawlio bod ffynhonnell o fewn Llafur Cymru wedi dweud eu bod ( Llafur) yn barod i gydweithio â Phlaid Cymru ar ôl yr etholiad.
Mae Peter Hain, a Rhodri Morgan yn gwadu hyn yn llwyr.

“This is a trumped up story from BBC Wales” meddai Mr Hain

“The fact is that Plaid Cymru and their media sympathisers are desperate to divert attention from the real story, which is the backdoor deal Plaid Cymru have done to put the Tories back in charge of Welsh schools and hospitals.”

Mae Mr Hain yn gefnogwr mawr o BBC Cymru fel arfer. Felly mae ei awgrym fod BBC Cymru yn cydymdeimlo â Phlaid Cymru yn gyhuddiad difrifol.

Mae’n werth cadw golwg ar adroddiadau BBC Cymru heno.
Ar un lefel mae’n hunllef i BBC Cymru fod yng nghanol y stori.

Sylwadau

Gwneud sylw