Pwy sy’n ennill etholiadau’r Cynulliad?

Mae gobaith y cawn ni help yr arbenigwyr cyn hir.
Bydd canlyniadau tri arolwg barn yn cael eu cyhoeddi cyn diwrnod y bleidlais fawr.

Mae cywirdeb yr arolygon hyn wedi gwella yn ddiweddar ond gyda chyn lleied o bobol yn pleidleisio mae bron yn amhosib i’r anoracs gwleidyddol wneud synnwyr o’r cyfan.
Un o’r cymhlethdodau yw ymddygiad siaradwyr Cymraeg.
Yn y gorffennol mae canran uwch o siaradwyr Cymraeg wedi pleidleisio na’r di- Gymraeg.
Yr arwydd mwyaf clir -ac amrwd -o hyn yw’r canrannau pleidleisio daearyddol. Yn etholiad 2003 roedd y “turnout” yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru yn 49.%. Uwch o lawer na chyfartaledd Cymru gyfan o 38%.
Lleiafrif o Gymry sydd yn medru y Gymraeg – ond gyda nifer fawr ohonom yn dewis defnyddio ein pleidlais, mae’n bosib fod canlyniad etholiad 2007 yn nwylo y Cymry Cymraeg.

Sylwadau

6 ymateb i “Arolygon Barn”

  1. Arfon Jones ar Ebrill 23, 2007 2:00 pm

    Chydig iawn o arolygon barn sydd yn ymwneud ag etholiadau Cymru a mae hynny’n biti, mi fuasai’n ddiddorol gneud arolwg barn mewn etholaethau lle mae yna ymgeiswyr annibynnol cryf fel Wrecsam ac Islwyn. Hefyd hoffwn weld arolygon barn mewn etholaethau lle mae’r terfynnau wedi newid fel Arfon. Gobeithio gneith y ‘trend’ o ganran uwch o Gymru Cymraeg bleidleisio gario mlaen, mae angen newid yng Nghaerdydd.

  2. Iestyn ap Dafydd ar Ebrill 23, 2007 6:18 pm

    Ai Cymry Cymraeg sy’n pleidleisio mwy, yntau pobl hy^n? O gofio gymaint o bobl sydd wedi ymddeol sydd yn byw yn yr ardaloedd hyn, hwyrach taw dyma sydd i gyfri.

    Eto i gyd, os ydych yn dilyn y cyfryngau Cymraeg, mae’n amhosib i chi fethu bod etholiad ar y gweill. O ddilyn y cyfryngau Saesneg, anodd yw clywed mwy nag ambell bwt perthnasol.

  3. Martin ar Ebrill 23, 2007 9:40 pm

    Mae’r Ffrancod wedi dangos inni be’ mae’n nhw’n meddwl o’u hawl i bleidleisio. Be’ fydd tynged ein Cynulliad yn y pen draw os na drown ni allan i bleidleisio adeg etholiad?

    Gyda llaw, braf gweld y defnydd o’r ymadrodd ‘Arolwg Barn’. Y gobaith yw mai arwydd o safon y Gymraeg fydd yn ein papur dyddiol ydi hyn. Cefais siom wrth ddarllen y cylchgrawn Barn yn ddiweddar a gweld yr ymadrodd wirion ‘pol piniwn’ yn y rhifyn cyfredol.
    Pam?

  4. Martin Llewelyn ar Ebrill 26, 2007 9:51 pm

    Ynglyn a sylwad Martin (arall) uchod: At ei gilydd, mae safon y Gymraeg yn Barn yn uchel iawn. Nid Cymraeg “pur” sy’n bwysig ar gyfer papur cenedlaethol o’r radd flaenaf, ond yn hytrach dychymyg, treiddgarwch, a pharch anferthol at gyfoeth y Gymraeg. Mae modd defynddio mymryn o Saesneg (nid wyf yn siwr o darddiad “pol piniwn” chwaith) mewn modd dychmygus a chwaethus.

  5. Martin ar Ebrill 27, 2007 9:18 pm

    Dw i’n cytuno a Martin Llewelyn pan mae o’n dweud bod safon y Gymraeg yn Barn yn uchel iawn.
    Dw i hefyd yn cytuno hefo popeth mae o’n dweud yn ei ail frawddeg. Mae Richard Wyn Jones wedi ymestyn y Gymraeg mewn amryw o’i erthyglau yn Barn, gan fathu ymadroddion newydd (newydd i fi beth bynnag).

    Ond ‘dyw defnyddio ‘pol piniwn’ (’opinion poll’) ddim yn enghraifft o hynny.

    Does ‘na’m y fath beth a Chymraeg pur (mae hynny’n wir am unrhyw iaith), ond mae hi’n bwysig ein bod ni yn ei thrin hi a pharch. Yn sicr mi fydd safon yr iaith a ’sgrifennwyd yn ‘y Byd’ yn dylanwadu ar safon y Gymraeg a siaredir yn y dyfodol.

    Y dyfodol agos, gobeithio…!

  6. Martin ar Ebrill 30, 2007 9:00 pm

    Fe ddefnyddir y term pol piniwn yn fama:
    http://www.cynghanedd.com/annedd/ (top y dudalen- ochr dde).
    Defnyddio ‘pol piniwn’ weithiau, ac ‘arolwg barn’ dro arall. Pam lai?!
    Os bydd gan Y Byd golofn i’r ifanc e.e. i bobl yn eu harddegau, yna efallai y dylid disgwyl i’r arddull fod ychydig yn wahanol. OND mae modd cyflwyno geiriau “estron” (a bathu ymadroddion newydd hefyd- pam lai?!) mewn modd…wel, cwl (am wn i).

Gwneud sylw